Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/276

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un ddyddorol ac addysgiadol; a dywedai y Daily News fod yn llawer haws gwawdio Mr. Richard na'i ateb. Yr oedd hyd yn oed Mr. Gladstone yn gorfod datgan cydymdeimlad ag amcan Mr. Richard; ond yr oedd yn amharod i roddi ei gynhygiad mewn ymarferiad. Yr oedd rhai o wŷr goreu y Tŷ o'i blaid. Pe ceid y wlad wrth gefn cynhygiadau fel hyn, buan y gwelai ein Gwladweinwyr fod yn rhaid iddynt eu rhoi mewn ymarferiad. Yn yr Herald of Peace am Ebrill 1, 1886, y mae Mr. Richard yn difynnu geiriau o eiddo Mr. Gladstone, y rhai mae'n debyg, nad oedd wedi eu gweled pan yn traddodi ei araeth, ag oedd yn dangos ei fod ef ei hun yn bleidiol i egwyddor y cynhygiad. Maent yn werth eu dodi ar gôf a chadw yn y fan hon. Wrth siarad ar ryfel Persia yn 1857, defnyddiodd Mr. Gladstone y geiriau canlynol,—

"Fe allai fy mod yo camgymeryd, a gall ei fod yn syniad hen ffasiwn, ond yr wyf yn hyf yn ei ddweud, gan nad wyf yn ei ddweud mewn cysylltiad ag un person na phlaid, os ydyw Llywodraeth ei Mawrhydi wedi ein cario ni i ryfel, ei dyledswydd oedd galw y Senedd ynghyd y foment gyntaf y penderfynwyd cymeryd y fath gam. Nis gwn i a oes esiampl blaenorol i gyfiawnhau neu liniaru ei hymddygiad; ond mi ddywedaf hyn, fod yr arferiad o ddechreu rhyfeloedd heb gydsyniad y Senedd i'r mesurau cyntaf yn hollol groes i arferiad