Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/278

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ionawr, 1886; ond ar ol bod mewn awdurdod am ond ychydig o fisoedd syrthiodd Gweinyddiaeth Arglwydd Salisbury, a daeth Mr. Gladstone yn Brif Weinidog am y drydedd waith. Dygodd Mr. Gladstone Fesur Llywodraeth Gartrefol i'r Iwerddon i mewn, ac ym mis Mehefin taflwyd ef allan trwy fwyafrif o 30. Apeliodd, gan hynny, at y wlad, a chafodd nad oedd ond rhyw 191 o'i blaid a 85 o ddilynwyr Mr. Parnell. Dewiswyd Mr. Richard drachefn yn ddiwrthwynebiad. Yr oedd efe yn bleidiol i egwyddor Llywodraeth Gartrefol i'r Iwerddon, ac yn ffyddlon iawn i Mr. Gladstone. "Mi lynnaf fi wrth yr Hen Wr Ardderchog," meddai Mr. Richard,"deued a ddelo." Parchai ef yn fawr, a chredwn fod parch Mr. Gladstone i Mr. Richard yn fawr hefyd, fel y dengys y dystiolaeth uchel a roddes iddo wedi ei farwolaeth; er fod Mr. Richard wedi gwrthwynebu Mr. Gladstone yn y Tŷ ar fwy nag un achlysur, ac yn arbennig ar achlysur Rhyfel yr Aifft. Ond gwyddai Mr. Gladstone fod gan Mr. Richard argyhoeddiadau dyfnion, a bod ganddo reswm a Christionogaeth o'i du.

Y pwnc a dynnai sylw mawr y pryd hwnnw, a Chymru yn arbennig, oedd Datgysylltiad. Dyma'r pryd yr ysgrifennodd Mr. Richard, mewn cydweithrediad â'i gyfaill Mr. Carvell