Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/279

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Williams, yr hwn oedd erbyn hyn yn Aelod Seneddol dros barth o Nottingham, ei lyfr rhagorol ar " Ddatgysylltiad,”—llyfr ag y mae John Bright wedi rhoddi canmoliaeth uchel iawn iddo. Fel y gellid disgwyl, y mae yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru yn cael sylw arbennig. Dengys trwy ffeithiau diymwad. ei bod wedi profi yn fethiant yno, a therfyna trwy ofyn ai nid oedd Cymru yn atebiad perffaith i'r ofnau hynny mewn perthynas i dynged gwir grefydd pe cymerai datgysylltiad le. Ofnid gan rai yr esgeulusid y parthau amaethyddol, lle yr oedd y bobl yn ychydig, yn wasgaredig, ac yn dlawd. Mewn atebiad, danyhosai Mr. Richard nad oedd un parth o'r Dywysogaeth yn cael mwy o sylw na'r parthau hynny. Yn Swydd Aberteifi anaethyddol, yn ol cyfrif 1851, darparwyd eisteddleoedd mewn addoldai i 97.8 y cant o'r boblogaeth; sef 27.4 gan Eglwys Loegr, a 70.4 gan yr Ymneillduwyr.