Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/280

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XVIII

Mr. Richard yn cael ei bennodi yn aelod o'r Pwyllgor Brenhinol ar Addysg—Ei lafur mawr arno, er ei afiechyd —Ei erthygl nodweddiadol ar Gymru yn y Daily News.

Gwasanaeth pwysig iawn arall a gyflawnodd Mr. Richard yn ei hen ddyddiau ydoedd dod yn aelod o'r Pwyllgor Brenhinol i chwilio i mewn i achos Addysg yn Lloegr a Chymru. Yr oedd hyn yn ystod Gweinyddiaeth fer Arglwydd Salisbury. Tarddodd y cynhygiad am y Pwyllgor oddiwrth Arglwydd Cross, amcan yr hwn, yn ol ei addefiad ef ei hun, ydoedd gosod yr Ysgolion Enwadol ar yr un tir, o ran cynhaliaeth oddiwrth y Wladwriaeth, a'r Bwrdd-ysgolion. Dymunai y Weinyddiaeth wneud ymddangosiad o degwch, ac felly penodwyd nifer o'r blaid arall ar y Ddirprwyaeth. Yr oedd yn gynhwysedig o 23 o aelodau, 15 o honynt yn erbyn gosod addysg o dan reoleiddiad y wlad, a'r gweddill—y lleiafrif—yn Rhyddfrydwyr neu yn Anghydffurfwyr. Nid ydoedd iechyd Mr. Richard yn dda ar y pryd, ond gan ei fod