Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/281

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn teimlo y perygl oedd i ni fel teyrnas gymeryd cam yn ol yn lle ymlaen yn Achos Addysg —cam ag y mae y Weinyddiaeth yn ei gymeryd y dyddiau hyn—ymgymerodd â'r gwaith, a dilynodd gyfarfodydd y Pwyllgor yn ffyddlon hyd y diwedd. Penodwyd y Ddirprwyaeth ar y 15fed o Ionawr, 1886, ond ni orffenwyd yr Adroddiad hyd Mehefin 27, 1888. Eisteddodd am 146 o ddyddiau—95 o honynt i wrando tystiolaethau 151 o dystion, a'r gweddill i ystyried yr Adroddiad. Gwnaeth Mr. Richard ei oreu i gael yr Adroddiad yn un mor dêg ag oedd yn bosibl Cymeradwyai bob peth yn yr Adroddiad ag oedd tueddu i wella ein cyfundrefn o Addysg. Un o'r pethau hynny ydoedd yr argymhelliad a ganlyn,—"Y dylid rhoddi caniatad yng Nghymru i gymeryd i fyny yr iaith Gymraeg fel testyn neilltuol; os dewisir, i fabwysiadu cynllun i'w chymeryd yn lle y Saesoneg fel testyn dosbarth, seiliedig ar yr egwyddor o osod cyfundrefn raddoledig i gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg, i ddysgu Cymraeg gyda Saesneg fel testyn dosbarth; aco i gymeryd y Gymraeg i fewn ymysg yr ieithoedd ymha rai y gellir arholi ymgeiswyr am ysgoloriaethau y Frenhines, ac am drwyddedau." Nid oes raid dweud fod gan Mr. Richard law arbennig yn yr argymhelliad hwn. Mae ei fod wedi