Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/283

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Yr wyf," meddai, yn teimlo yn fwy awyddus am fy mod yn yn wybodol o fy ngwendid cynhyddol, ac o fy anallu i wneud cyfiawnder âg Achos Addysg Anenwadol. Mae'r afiechyd sydd yn fy mlino yu cynhyddu o ddydd i ddydd, ac yn fy analluogi yn fwy-fwy i wneud llawer o waith."

Dychwelodd Dr. Dale ym mis Ionawr, 1888. Terfynodd y Ddirprwyaeth ei gwaith, fel y dywedwyd, ym mis Mehefin. Y mae Dr. Dale yn rhoi tystiolaeth uchel iawn i'r modd y cyflawnodd Mr. Richard ei waith ar y Ddirprwyaeth. Dywed y byddent ill dau yn aml yn esgyn y grisiau gyda'u gilydd, ac am fisoedd lawer nid esgynnai Mr. Richard heb gymeryd y cyfferi angenrheidiol er atal ymosodiad yr anhwyldeb a fu yn angeu iddo yn y diwedd, sef clefyd y galon. Mynych y canfyddid, pan godai i gymeryd rhan mewn dadl, ei fod yn dioddef oddiwrth yr anhwyldeb, a bod siarad am bum munud neu ddeg wrth ryw ugain o foneddwyr, yn beryglus iddo. Gwyddai yntau hynny yn dda, a llawer gwaith y soniai am hynny. Ond yr oedd yn penderfynnu gwneud hynny o waith a allai tra byddai byw. Eisteddai ar y Ddirprwyaeth fel Arweinydd yr Anghydffurfwyr yn y Senedd, ac fel Cynrychiolydd Buddiannau Addysgawl Cymru. Teimlai bwysigrwydd ei sefyllfa. Deuai yn gynnar, ac arosai