Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/284

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn hwyr. Talai y sylw mwyaf i'r tystiolaethau, ac yr oedd yn graff a manwl iawn. Yr oedd yn foesgar ac ystwyth bob amser; ond yn anhyblyg fel y dûr mewn cwestiwn o egwyddor. Wedi unwaith gael gafael ar y gwirionedd, yr oedd yn anichonadwy ei symud. Efe oedd yr un a ysgrifennodd rai o'r brawddegau goreu yn Adroddiad y lleiafrif. Fel ei hen gyfaill, Mr. Miall, edrychai yn ol gyda gradd o ofid fod y wlad yn ymadael oddiwrth y gyfundrefn wirfoddol o Addysg. Yn wir, yr oedd Dr. Dale yn petruso a oedd wedi ei argyhoeddi yn llwyr fod cynhorthwy y Llywodraeth yn angenrheidiol, a'i fod yn credu y buasai Addysg, er y cynhyddasai yn fwy araf, yn gwneud hynny yn fwy diogel heb arian y Llywodraeth. Ond os oedd rhaid cael arian y Llywodraeth, teimlai yn gryf y dylai yr ysgolion fod o dan reolaeth rhai yn cynrychioli y bobl yn gyffredinol, ac na ddylid ceisio dysgu crefydd enwadol ynddynt. Mae yn amhosibl teimlo gormod o barch i Mr. Richard am ei lafur yn yr achos hwn, pan gofiom ei henaint a'i wendid ar y pryd.

Yn ystod yr holl amser hwn, yr oedd Mr. Richard yn parhau i fod yn Ysgrifennydd Mygedol y Gymdeithas Heddwch, ac ysgrifennai erthyglau arweiniol i'r Herald of Peace, a chyfansoddai Anerchiadau galluog iawn dros y