Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/286

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Lloegr, gorchfygu Cetewayo, a rheoleiddio achosion Zululand. Rhaid oedd iddo danbelennu Alexandria, llywodraethu yr Aifft, a lladd miloedd o Arabiaid yn y Soudan. Mewn gair, yr oedd yn gorfod cario allan Wladweiniaeth Dramor rymus a nerthol ym mhob parth o'r byd; ac mewn cynhariaeth i'r anturiaethau ardderchog hyn, pa hawl oedd gan ryw filiwn a hanner o Gymry i ddisgwyl y buasai efe yn gostwng ei glust i'w cwynion a'u hapeliadau hwy, nac yn wir yn talu nemawr o sylw i'w achosion ei hun?

Fel y mae yn digwydd bob amser yn ein hanes politicaidd, yr oedd yn rhaid i Gymru wneud ei hunan yn flinder, cyn y caffai sylw. Gorfu arni godi ei llais yn lled uchel ar gwestiynau yn dwyn perthynas â'r Tir, a'r Eglwys, a hen ofergoelion ereill, cyn gorchfygu dideimladrwydd ei chymdogion. Ond wedi iddi ddechreu dychrynnu y dosbarthiadau mewn awdurdod, y mae wedi dod i feddu lle mwy na mwy amlwg ym meddyliau ac areithiau dynion. Addefir, yn awr, ei bod yn meddu hanfodiad gwahaniaethol, ac nad yw i'w hystyried bellach yn fath o labed wrth gynffon Lloegr. Mae Prif Weinidogion, a rhai a fu yn Brif Weinidogion, a phob math o Wladweinwyr ac Areithwyr wedi troi llewyrch eu hwynebau arni, ac wedi ennill ei phobl trwy lais eu hudoliaeth. Mae wedi cael Dirprwyaeth Ymchwiliadol gan y Llywodraeth, a hynny i gyd iddi ei hun. Bu ei hachosion o dan sylw parchus mewn Pwyllgorau a Chynhadleddau. Gwnaeth ei llais yn glywadwy hyd yn oed yn y Senedd, er pob ymgais a wnaed yn ddiweddar i'w distewi. Canlyniad naturiol hyn oll yw, fod llawer yn cyniwair gan siarad ac ysgrifennu am y Dywysogaeth; ac os nad yw gwir wybodaeth yn amlhau, mae yr hyn sydd yn proffesu bod yn wirionedd yn cael ei daenu. Ymwrolodd rhai