Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/290

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

elyniaeth wenwynig at yr Eglwys;' haeriadau sydd nid yn unig yn anwireddus a sarhaus, ond yn ffol i'r eithaf. Nid oes neb ag sydd wedi bod yn bresennol mewn cymaint ag un o Gynhadleddau neu Gymdeithasfaoedd yr Anghydffurfwyr a all syrthio i'r fath gamgymeriadau ynfyd a gwarthus, os na fyddant yn cael eu cynhyrfu gan falais blaenorol, yr hyn nad wyf yn ei honni. Credaf fod y cam-ddarluniadau hyn a'u cyffelyb, yn codi o'r ffaith fod dynion yn anturio trin materion tu allan i gylch eu gwybodaeth a'u crmhwysder i'w deall. Y mae digon o sefydliadau politicaidd grymus yng Nghymru, ond y maent y tu allan i'r Eglwysi.

"Diamheu fod llawer o Ymneilltuwyr, yn eu cymeriadau dinasyddol, yn cymeryd rhan neilltuol yn y sefydliadau hyn. Pa fodd y gall fod yn angen, pan y maent mewn rhif, deall, a dylanwad, yn cyfansoddi rhan fwyaf pwysig y boblogaeth? Y mae yn wir hefyd, pan y mae cwestiynau cyhoeddus o bwys yn cyffroi y wlad, fod rhai o'r enwadau Anghydffurfiol yn pasio penderfyniadau yn dwyn cysylltiad a mwy neu lai â'r cwestiynau hyn. Ond y maent yn gyffredin yn gwneud hyn gyda phetrusder ac anewyllysgarwch, fel pe yn gresynu fod yn rhaid troi am foment oddiwrth eu gwaith ysbrydol at y fath faterion bydol. Rhoddaf un engraifft o'r modd y maent yn arfer trin y fath faterion, Gwarthruddir y Methodistiaid Calfinaidd yn neilltuol fel rhai yn gwneud crefydd yn ddarostyngedig i boliticiaeth. Mewn erthygl alluog a ymddangosodd yn ddiweddar yn y Traethodydd, o dan law ei olygydd parchus a galluog, y Parch. Daniel Rowlands, yntau yn aelod parchus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, nodir y ffeithiau canlynol, Mewn Cymanfa a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ddeufis neu dri yn ol, a'r hon oedd yn cynrychioli holl Eglwysi Methodistiaid