Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/291

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gogledd Cymru, derbyniwyd cenhadwri oddiwrth un o'r Cyfarfodydd Misol yn cynghori ar fod rhyw sylw yn cael ei wneud o bwnc y Degwm, ag oedd y pryd hwnnw yn cyffroi y wlad. A pha beth a wnaed? Datganodd y Parch. Dr. Owen Thomas, un o'r gweinidogion mwyaf parchus a dylanwadol yn y Corff, deimlad cryf yn erbyn y priodoldeb o ymadael oddiwrth y rheol a ffynnai yn y Cyfundeb o'r dechreu i beidio dwyn cwestiynau y gellid mewn un modd eu hystyried yn rhai politicaidd i'r Cymanfaoedd hyn. Yr oedd cydsyniad cyffredinol yn cael ei ddatgan gan y frawdoliaeth i'r syniad hwn. Ond wrth edrych ar sefyllfa neilltuol y wlad, barnwyd yn ddoeth i benodi is-bwyllgor i ystyried y mater, a dwyn ymlaen benderfyniad, i un o'r cyfarfodydd dilynol. Yr oedd y penderfyniad hwnnw, yr hwn a dynwyd allan gan Dr. Thomas ei hun, a'r hwn a gefnogwyd gan yr aelod pres- ennol dros Sir Fôn, fel y canlyn,—'Ein bod ni fel Cymanfa yn dymuno datgan ein cydymdeimlad dyfnaf âg amaethwyr ein gwlad, oherwydd yr iselder mawr yr oeddent wedi eu dwyn iddo yn y blynyddoedd diweddaf; ein bod yn gofidio yn neilltuol oherwydd yr anghydfyddiaethau gofidus a gymerasant le mewn rhai mannau mewn perthynas i'r degymau; ein bod yn gobeithio yn fawr y trefnir pethau yn fuan fel ag i rwystro pob achlysur i'r cyfryw anghydfyddiaethau, trwy ddefnyddio y degymau i ddibenion cenhedlaethol. Yn y cyfamser, yr ydym yn taer gynghori ein holl aelodau, pa faint bynnag fyddo y temtasiynau y byddant yn agored iddynt, tra yn arfer pob moddion cyfreithlon i gael yr hyn a ystyrient yn iawnderau gwladol, i wneud hynny yn y fath fodd ag a dueddo er anrhydedd eu crefydd, ac er harddu yr Efengyl a broffesant.'

Cyhuddiad arall a ddygir yn erbyn Anghydffurfwyr