Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/292

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymru ydyw hwn,—Eu bod yn troi eu pulpudau yn llwyfannau politicaidd, ac yn lle pregethu yr Efengyl, eu bod yu areithio wrth y bobl mewn iaith wyllt ac anghynedrol ar gwestiynau y dydd. Yr wyf yn gwadu y cyhuddiad brwnt enllibus hwn yn bendant. Tybiwyf fod gennyf hawl i ddwyn fy nhystiolaeth bersonol ar y mater. Clywais gannoedd o bregethau o bulpudau Cymru, ac yn arbennig eiddo y Methodistiaid Calfinaidd, ymysg y rhai y magwyd fi. Traddodid rhai o honynt ar adeg o Etholiad, pan oedd y Tlad mewn berw politicaidd gwyllt. Ni chlywais un ag oedd yn y radd leiaf yn bregeth boliticaidd, neu yn cynnwys y cyfeiriad lleiaf at bynciau y dydd, y rhai oedd yn cynhyrfu meddyliau y bobl. Nid yn aml y byddaf yn myned i wasanaeth yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru, ond y tro diweddaf y gwnaethum hynny, clywais bregeth hollol boliticaidd, ac nid oedd yn llai hynod am ei bod yn cael ei lluchio at ben Mr. Gladstone, yr hwn oedd yn bresennol ar y pryd."

Nid yn hawdd y gellir prisio gwerth erthygl fel hon yn y Daily News, a hynny oddiwrth un o ddylanwad Mr. Henry Richard, er rhoddi taw ar y rhai oeddent mor barod bob amser i lychwino cymeriad y Cymry trwy gyfrwng y Wasg Seisnig.