Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/293

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XIX.

Iechyd Mr. Richard yn datfeilio—Ei gariad at Gymru—Yn myned i Dreborth—Ei fwynhad yno—Ei farwolaeth sydyn—Ei gladdedigaeth yn Llundain—Anerchiad Dr. Dale—Teyrnged Mr. Gladstone i'w gymeriad—Sylwadau y Wasg ar ei fywyd a'i waith.

(1888) Gwelir oddiwrth yr erthygl yn y bennod flaenorol fod yr un awyddfryd angherddol ym mynwes Mr. Richard i amddiffyn anrhydedd a chrefydd ei wlad, yn awr, pan yn hen ŵr 76 oed, ag oedd ynddo pan yn ŵr cymharol ieuanc dros ddeugain mlynedd cyn hynny yn Crosby Hall, Llundain, ac nad oedd ei holl helyntion Seneddol, na’i lafur gyda'r Gynıdeithas Heddwch, er eu maint, yn oeri dim ar ei gariad at hoff wlad ei enedigaeth. Ond er fod yr ysbryd yn barod i waith bob amser, yr oedd y cnawd yn wan. Rhoes marwolaeth un o'i gyfeillion mynwesol o'r un afiechyd ag oedd yn ei boeni yntau gyffro i'w feddwl, a theimlai y dyddiau hyn, nad oedd ei yrfa yn debyg o redeg ymlaen lawer pellach. Treuliai ddyddiau i drefnu ei bapurau—er, meddir, na wyddai ei