Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/294

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wraig mo hynny—fel pe yn ymwybodol fod dydd ei ymddatodiad heb fod ymhell.

Hoffai yn fawr dreulio rhai o'i ddyddiau hamddenol gyda'i gyfaill, y diweddar Mr. Richard Davies o Dreborth, Arglwydd Raglaw Sir Fôn, yng ngolwg mynyddoedd Sir Gaernarfon ac afon brydferth y Fenai. Byddai yn mwynhau y tawelwch a'r gorffwystra yn y lle prydferth hwnnw yn fawr. Yn fuan ar ol gohiriad y Senedd, sef ar y 9fed o Awst, 1888, aeth efe a'i wraig i dalu ymweliad â'r lle hyfryd hwnnw. Caffai groesaw cynnes yn Nhreborth bob amser. Dywedai Mr. Davies, y byddai—er ei afiechyd—yn llawen a siriol, ac yn mwynhau difyrion y rhai ieuainc yn fawr. Y dydd Sadwrn cyn ei farwolaeth, aethant mewn cerbyd i Bettws y Coed, a heibio Llyn Ogwen a Chapel Curig, a mawr fwynhai Mr. Richard olygfeydd prydferth y parthau hynny. "Mae hwn," meddai, gan droi at Mrs. Davies, "yn ddiwrnod i'w gofio." Galwodd Dr. Owen Thomas yno y dydd Llun canlynol, a chawsant ymddiddan hyfryd dros ben am yr hen bregethwyr, ac am ei dad, Ebenezer Richard, yn eu plith, a mwy nag unwaith y datganai ei syndod at gôf anghydmarol Dr. Thomas. Hawdd gennym gredu hyn. Côf gennym fod yn cydgerdded ag ef tua chapel Rose Place, Lerpwl, yn amser rhyfel y