Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr eglwys mewn rhif, ymadfywiodd y gwahanol sefydliadau perthynol iddi, a'r Ysgol Sul yn arbennig Bu Mr. Richard yn weinidog yng nghapel Marlborough am dros bymtheg mlynedd.

(1843) Yn 1843, cafodd y gweinidog ieuanc gyfleustra i ddangos yr eiddigedd hwnnw a nodweddai ei fywyd dros gymeriad ei genedl, trwy ysgrifennu i'r Daily News, a hefyd trwy bapur a ddarllenodd o flaen yr Undeb Cynulleidfaol yn achos y rhai a alwent eu hunain yn blant Rebeccah yn Neheudir Cymru y pryd hwnnw yr oedd y toll-byrthi yn faich trwm ar warrau y ffermwyr. Troent allan yn y nos, ac ymffurfient yn finteioedd o bum cant mewn nifer, a'u harweinwyr wedi eu gwisgo mewn dillad merched, a dinistrient y tollbyrth, ac yna ymwasgarent. Galwent eu hunain yn " blant Rebeccah," mewn cyfeiriad at yr addewid (Gen. xxiv. 60) y byddai i had Rebeccah etifeddu porth ei gaseion (possess the gate of those which hate them). Rhoddai y newyddiaduron ddesgrifiad ofnadwy o'r terfysgoedd hyn, a chymerid achlysur i ddifrïo y Cymry yn gyffredinol. Er nad oedd Mr. Richard, fel y gallesid disgwyl i'r hwn a ddaeth wedi hynny, mewn modd neilltuol, yn "Apostol Heddwch," yn cyfreithloni y terfysgoedd hyn, eto dangosodd yn ei ysgrifau nad oedd din amcan politicaidd mewn golwg,