Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

boliticaidd ac ymarferol ar y cwestiwn. Daliodd Mr. Richard hyd y diwedd, fel Ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch i gymeryd y safle hwn yn ol cyngor Mr. Cobden. Ar yr un pryd, byddai yn aml iawn yn yr Herald of Peace, a phob amser yn y Senedd, yn condemnio rhyfel oddiar yr un safle ymarferol ag a gymhellid gan Mr. Cobden ei hun.

(1849) Ym mis Ebrill, 1849, aeth Mr. Richard ac Elihu Burritt i Paris i wneud trefniadau ar gyfer Cynhadledd Heddwch yno. Yr oedd y gwaith yr ymgymerasant âg ef yn fawr, Ymwelasant âg aelodau Senedd Ffraingc, aelodau y Weinyddiaeth, awdwyr enwog, a golygwyr newyddiaduron; ac o'r diwedd cawsant dderbyniad hyd yn oed i dŷ yr enwog Lamartine fwy nag unwaith, yr hwn a ddatganai ei barodrwydd i wneud a allai o blaid eu hamcan. Mae y desgrifiad a rydd Mr. Richard yn ei ddyddlyfr o'r derbyniad a gawsant, ac o'u hymweliad â rhai o enwogion ereill Paris yn dra dyddorol. Mawr gymeradwyent yr amcan oedd gan y ddau gennad hyn mewn golwg, a dymunent bob llwyddiant iddynt; ond prin yr oedd neb o honynt yn edrych ar yr ymgais i roddi terfyn ar ryfel yn beth tebyg i lwyddo. Wrth gwrs, yr oedd yn gofyn gwroldeb, doethineb, a gochelgarwch mwy na chyffredin wrth