Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cynhaliwyd cyfarfodydd mawrion hefyd fel math o Ategiad i'r Gynhadledd yn Llundain, Manchester, a Birmingham, yn y rhai y darllenwyd llythyrau oddiwrth y fath wŷr enwog a Victor Hugo, Lamartine, ac ereill. Yr oedd areithiau Cobden a Bright yn frwdfrydig, yn gryfion ac argyhoeddiadol iawn, ac yn cario dylanwad mawr.

Codai y cwestiwn bellach ai nid dyledswydd Mr. Richard oedd rhoi i fyny ei swydd weinidogaethol fel y gallai ymgysegru yn fwy llwyr i'r gwaith mawr a phwysig yr oedd Rhagluniaeth yn ei dorri allan iddo. Gwnaeth y pwnc yn fater gweddi ddwys ac ystyriaeth ddifrifol, a daeth i'r penderfyniad mai dyna oedd ei ddyledswydd; fod dadleu o blaid "tangnefedd ar y ddaear" yn rhan o'r " Newyddion da o lawenydd mawr" y daeth y "llu nefol" i'w cyhoeddi uwch ben meusydd Bethlehem i'r byd, a'i fod yn waith mor gysegredig ymhob ystyr a'r gwaith yr oedd yn ei gario ymlaen yng Nghapel Marlborough.

(1850) Yn 1850, gan hynny, rhoes i fyny ei gysylltiad â'i eglwys, a danghosodd yr eglwys ei pharch iddo trwy ei anrhegu mewn cyfarfod cyhoeddus â phwrs o aur, a chopi cyflawn o'r Encyclopaedia Metropolitana. Wedi ei ryddhau fel hyn, ymdaflodd Mr. Richard yn llwyr i'r gwaith mawr yr