Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond darfu i "heddychlawn ddyfodiad" y gwŷr hyn orchfygu pob anhawster. Ymwelodd Mr. Richard â dynion enwog, megis Dr. Tholuck, Dr. Hengstenberg, Dr. Dollinger, Baron Von Humboldt, ac ereill, a rhydd ddesgrifiad dyddorol iawn yn ei ddyddlyfr o'u personau a'u hymddyddanion. Amrywiant yn fawr yn eu syniadau am eu neges. Cafodd fod yr esboniwr enwog, Hengstenberg, yn credu yn gryf mewn rhyfel.

Yr oedd y Gynhadledd hon yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus, yn gymaint felly, fel y buasai yn dda gennym, pe buasai gofod yn caniatáu, roddi hanes cyflawn o honi. Daeth tua 500 o garedigion yr achos o Lundain yno, ac yr oedd Mr. Richard a Mr. Burritt wedi trefnu gyda llywodraethau Belgium a Phrwsia iddynt gael pasio trwodd heb drwyddedau teithio, ac wedi gwneud trefniadau ar gyfer lletya'r dieithriaid. Dywed Mr. C. S. Miall, ei fod ef yn un o'r teithwyr, ac nad anghofia yn fuan y bloeddiadau llongyfarchiadol gyda pha rai y derbyniwyd Mr. Richard a Mr. Burritt, pan ddaethant ar fwrdd y llestr i'w croesawu, ac y rhanasant y papurau angenrheidiol iddynt.

Yr oedd yr eglwys lle y cynhelid y Gynhadledd ynddi wedi ei haddurno yn brydferth, ac yn un mor fawr fel y cynhaliai tua 3,000 o bersonau.