Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Joseph Garnier o Paris, y Parch. Dr. Bullard, George Dawson o Birmingham, Dr. Hitchcock, Prif Athraw Coleg Amersham, yr Unol Daleithiau, y Parch. E. B. Hall, M. Drucker o Amsterdam, Ka-Ge-Gah-Bowh (Parch. G. Copway wedi hynny), un o benaethiaid yr Indiaid Coch, Dr. Weel, Dr. Bodurstedt, Edward Miall, Dr. Madonao, Elihu Burritt, Lawrence Heywood, A.S., y Parch. E. H. Chappin o Efrog Newydd, y Parch. Andrew Reid, B.A., Mr. Saeckhart o Frankfort, M. Corminin, a Henry Richard. Fe welir oddiwrth y rhestr uchod o enwau mai nid cyfarfodydd oedd y rhai y siaradai y fath ŵyr ynddynt y gellid eu dibrisio neu eu gwawdio. Yr oedd araeth Mr. Richard, wrth gynnyg diolchgarwch i Senedd Frankfort ac ereill, wrth adolygu y Gynhadledd a'i gwaith, yn un odidog. Desgrifia yn ddoniol iawn ddyfodiad cyntaf Mr. Burritt ac yntau i'r ddinas. Nid oeddent yn adnabod un dyn byw ynddi ond Dr. Varrentrapp. Yr oedd yr olwg am lwyddiant yn anobeithiol bron, ond ar ol danfon eu cais i'r Senedd cawsant atebiad cymeradwyol yn ddi—oed. Pe buasai gofod yn caniatáu, carasem gyfieithu yr oll o araeth ragorol Mr. Richard. Yr oedd pob brawddeg o honni yn derbyn cymeradwyaeth, ac y mae yn amlwg wrth ei darllen, fel y mae yn awr o'm blaen, fod ei waed