Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gristionogion, ydyw cael eu gweled gan baganiaid, a barbariaid yn rhwygo eu gilydd fel bleiddiaid; os oes rhywrai, meddaf, yn meddwl yr holl bethau hyn, chwardded y cyfryw." (uchel gym.)

Brawddegau fel hyn sydd yn britho araeth Mr. Richard. Un o'i ddarnau mwyaf prydferth ydyw ei ddatganiad o'i obaith o lwyddiant achos Heddwch trwy ddefnyddio cymhariaeth o'r môr yn codi llong fawr oedd ar y traeth, fel y gwelsai "yng ngwlad ei enedigaeth, sef Cymru," ac yn nofio yn ardderchog tua'r eigion mawr.

Dichon y bydd rhai yn barod i ofyn yn y fan hon pa les a ddeilliodd o'r holl lafur gyda'r Cynhadleddau hyn? Nid ydym am ateb y cwestiwn hwn yn awr; cawn wneud hynny pan ddeuwn i sylwi yn fwy neilltuol ar "waith" Mr. Richard. Ond caniatäer i ni yn y fan hon ddifynnu ei eiriau ei hunan mewn araeth a draddododd yn Leicester yn 1881, i ddangos beth oedd y cymelliadau uchel ac anrhydeddus a'i cynhyrfai wrth gario ymlaen y gwaith pwysig hwn,—

"Bum" meddai, "yn siarad ym Mharis, Brussels, Antwerp, yr Hague, Berlin, Dresden, Munich, Vienna, Geneva, Bremen, Cologne, Rhufain, Venice a mannau ereill. Hwyrach y gofynnwch i mi beth ydyw'r effeithiau? Wel, nis gallaf ddweud. Ein gwaith ni yw gweithio o