Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel yn cymeryd gafael ar feddyliau pobl. Yr oedd yr Herald of Peace wedi helaethu ei gylchrediad yn ddirfawr; casglwyd mil o bunnau yn ychwanegol at y pum mil at y Gronfa Gynhadleddol, ac yr oedd pob peth yn dra ffafriol i lwyddiant y Gynhadledd, yr hon a ddechreuodd yn Exeter Hall ar yr 22ain o fis Gorffennaf, Syr David Brewster yn y gadair. Yr oedd yno gynrychiolwyr o brif drefydd Ewrob. Anhawster Mr. Richard oedd gwneud dewisiad o siaradwyr o fysg y lluaws enwogion oedd yn bresennol.

Yr oedd John Bright yn absennol, oherwydd marwolaeth ei wraig; ond yr oedd Richard Cobden yn fwy effeithiol nag arferol. Ysgrifennodd Carlyle lythyr—fel efe ei hun—i ddweud "pa beth bynnag a ddywedid am y natur ddynol, ei fod yn eglur mai goreu po leiaf o dorri gyddfau a gymerai le yn y byd." Traddodwyd areithiau yn y cyfarfodydd gan y Cadeirydd, gan y Parch. J. Angel James, Mr. Cobden, Edward Miall, a thua phedwar ar hugain o wŷr enwog ereill. Wrth gwrs, yr oedd y Times a'r Morning Chronicle, fel arferol, yn gwatwar yr ymdrechion hyn, ond yr oedd nifer fawr o'r papurau wythnosol yn ffafriol. Ceisiodd y Gymdeithas Heddwch gan Ddirprwywyr yr Arddangosfa gau allan o honi bob offer rhyfelgar, ond yn aflwyddiannus; er hynny llwyddodd i atal pob gwobrwyon am danynt.