Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond er yr holl ymdrechion hyn, a'r disgwyliadau y buasai yr Arddangosfa yn creu teimladau brawdgarol ymysg cenhedloedd, siomwyd hwynt yn bur fuan. Troes teimladau y wlad megis i'r cyfeiriad gwrthwynebol, fel y maent yn dueddol, yn fynych, i wneud; ac yr oedd rhai, oddiwrth hynny, yn cymeryd achlysur i wawdio holl ymdrechion pleidwyr heddwch, gan waeddi allan, "Edrychwch ar y cyfandir." Cymerodd Mr. Richard y cri i fyny yn yr Herald of Peace, a throes y byrddau arnynt. Danghosodd fod yr hyn oedd yn cymeryd lle ar y cyfandir yn llefaru yn uchel o blaid egwyddorion Heddwch, ond darllen "arwyddion yr amserau" yn briodol.

Ymhen tua deufis dymchwelodd Louis Napoleon ryddid y Weriniaeth, gyda'i coup d'etat, ac yn fuan wedi hynny darfu i Arglwydd Palmerston, o'i ben ei hun, roddi cymeradwyaeth y wlad hon i'r hyn a wnaeth. Bu ffrwgwd rhyngddo âg Arglwydd John Russell mewn canlyniad, a llwyddodd yntau drachefn i ddymchwelyd y Weinyddiaeth. Gwelodd swyddogion ac ysgrifenwyr milwrol fod cyfleustra yn bod i chwythu tân rhyfel ac i fygu y teimladau oedd wedi eu codi o blaid heddwch. Dechreuasant gymeryd mantais ar sefyllfa gyffrous pethau yn Ffrainc, a defnyddiasant y Wasg i