Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddychrynu y bobl, trwy ddweud fod Prydain mewn sefyllfa ddiamddiffyn, ac y gallai Louis Napoleon ein goresgyn pan y mynnai. (1852) Ac nid oedd y Duc Wellington heb gefnogi y syniad. Parhaodd y deyrnas mewn cyflwr cyffrous, taflwyd hi yn ol a blaen gan bob awel teimlad aflywodraethus, dymchwelwyd Gweinyddiaeth Arglwydd Derby, a ffurfiwyd Gweinyddiaeth Gymysg, o dan arweiniad Arglwydd Aberdeen ym mis Rhagfyr, 1852; "Gweinyddiaeth Gyfuniadol," fel y gelwid hi, a disgwylid llawer oddiwrthi. Arglwydd John Russell oedd y Gweinidog Tramor, ac Arglwydd Palmerston yr un Cartrefol.

Tuedd yr holl gynyrfiadau hyn oedd byddaru, i fesur mawr, sŵn gweithrediadau Cymdeithas Heddwch; ond nid un i ddigalonni oedd ei hysgrifennydd diflino, ond ymroddodd i lafurio yn fwy egnïol. Ysgrifenodd erthyglau rhagorol i'r papurau, ac i'r Herald of Peace—erthyglau y buasai yn dda pe darllenasid hwynt y tair blynedd diweddaf gan y wlad hon. Ysgrifennodd Mr. Cobden hefyd bamffled o dan y teitl "1793 ac 1853," yr hwn a dynnodd sylw mawr ar y pryd; ond y mae yn deg dweud mai Mr. Richard fu yn casglu llawer o'r defnyddiau i Mr. Cobden; oblegid yr oedd Mr. Richard yn astudiwr "Llyfrau Gleision" heb ei ail. Yr un modd pan