Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyfarfodydd, hanes ein rhyfel â Burmah, wedi ei seilio ar bapurau swyddogol y llywodraeth. Afreidiol ydyw dweud fod areithiau Cobden a Bright yn rhai rhagorol, ac iddynt dynnu sylw yr holl wlad. Yr oedd Punch yn gwawdio, a'r Chronicle yn bytheirio, ond yr oedd yr had da a hauwyd yn siŵr o ddwyn ffrwyth. Tystiolaeth Mr. Richard ei hun am y cyfarfodydd ydoedd, na bu areithiau erioed mwy difrifol ac effeithiol ar y cwestiwn o Heddwch.

Tua'r amser hwn barnwyd yn ddoeth i Mr. Richard dreulio ychydig o fisoedd o'r flwyddyn yn Manchester. Nid oedd efe ei hun yn mawr hoffi y drefn, ond credai, er hynny, mai dyna' oedd ei ddyledswydd, a thua'r un amser fe beidiodd a galw ei hun yn "Barchedig," a hynny, meddir, ar awgrym Mr. Cobden. Dechreuai hefyd gadw cofnodion o ffeithiau a syniadau ar wahanol faterion, ac yn enwedig ar gwestiwn mawr ei fywyd, sef Heddwch, oblegid yr oedd cylch ei ddarlleniad yn eang iawn. Y mae, yn wir, yn syndod ei fod yn gallu ysgrifennu ar gynifer o faterion, ac yn medru dyfynnu o weithiau cynifer o wahanol awduron ar bob gwedd ar y materion yr ymdrinnir â hwy. Dywedir hefyd ei fod ar brydiau yn agored i bruddglwyfni, yr hyn oedd yn ddigon naturiol wrth ystyried mor ddiwyd y byddai yn efrydu.