Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond yr oedd y gwaith mawr a gyflawnai yn rhwystro, fe ellid meddwl, i'r pruddglwyf ei flino yn hir. Yn ychwanegol at ei lafur ynglŷn â'i swydd, byddai hefyd yn pregethu weithiau mewn pulpudau Ymneilltuol. Tua diwedd y flwyddyn hon cafodd wahoddiad ddod yn athraw Coleg Aberhonddu, a bu yn hir, oherwydd sefyllfa ei iechyd, yn petruso beth oedd ei ddyledswydd; ond ar ol ystyriaeth ddwys ac ymgynghoriad â Dr. Campbell, penderfynodd lynnu yn ei swydd, ac ymaflodd yn ei waith gydag ymroad adnewyddol.

Ym mis Hydref y flwyddyn hon, cynhaliwyd Cynhadledd Heddwch yn Edinburgh. Yr oedd y "cwestiwn Dwyreiniol" yn dechreu codi, a chymerodd Mr. Richard a'i gyfeillion achlysur i rybuddio y wlad o'r perygl yr oedd ynddo gyda golwg arno, a'r ysbryd rhyfelgar ac ymffrostgar oedd yn ffynnu. Ysgrifennodd erthyglau yn yr Herald of Peace, yn gynnar yn y flwyddyn, yn egluro gwir natur y cwestiwn, a gresyn na fuasai pobl ein teyrnas wedi ei ddeall yn gynt nag y darfu iddynt, oblegyd—fel y mae yn anffodus yn digwydd yn fynych gyda golwg ar ryfeloedd—ni phelydrodd y gwirionedd ar eu meddyliau nes oedd yn rhy ddiweddar. Danghosai Mr. Richard y ffolineb o wag ymffrostio mewn erthygl rymus o dan y teitl, "Is National