Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

boasting good?" ac ni ddarfu neb rybuddio y deyrnas yn fwy ffyddlon o'i pherygl a'r tebygolrwydd iddi "lithrio" i ryfel nag y darfu ef. Ond fel y gorfu i Arglwydd Aberdeen gyfaddef ar ol hynny, "llithro" a wnaed wedi y cyfan.

Yr oedd y gynhadledd yn Edinburgh yn un dra llwyddiannus. Parhaodd am ddau ddiwrnod, a chynhaliwyd pedwar o gyfarfodydd mawr. Siaradwyd yno gan liaws o wŷr enwog, megis Mri. Cobden, Bright, Miall, ac ereill. Byrdwn araeth Mr. Cobden oedd y cwestiwn, "A ddylem fyned i ryfel i ddal i fyny annibyniaeth Twrci?" Un o hynodion y cyfarfod oedd fod Syr Charles Napier, y llyngesydd enwog, yr hwn a wnaeth ei hun mor hynod yn y rhyfel yn erbyn Rwsia ar ol hynny, wedi codi i siarad ar ol Mr. Cobden. Ymddengys iddo ymffrostio yn y London Tavern, yn y brif ddinas, y buasai yn myned i'r cyfarfod i wrthwynebu y rhesymau a ddygid ymlaen yno; ond wedi codi ar ei draed, yr oedd yn amlwg y teimlai fod rhesymau Cobden yn rhai nad allesid eu chwalu â bwledi ei fagnelau ef, a phan ofynnwyd iddo a oedd am gynnyg gwelliant gwrthododd, a dywedodd fod yn well ganddo gefnogi y cynygiad! Gwrandawyd ar ei siarad dibwynt yn amyneddgar, ond yr oedd yn dda ganddo gael eistedd i lawr. Gwynfyd na ddeuai mwy o lyngeswyr a chadfridogion o fewn cylch dylanwad cyfarfodydd fel hyn.