Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD V.

Rhyfel y Crimea-Cynhadledd Paris—Yr adran ar gyflafareddiad yn y Gytundeb—Rhyfel â China—Y Morning Star—Gweithydd Amddiffynnol—Yr Arddanghosfa—Yr ymdrech o blaid heddwch cyffredinol—Rhyfel Cartrefol yr America—Achos y Trent—Yn ysgrifennu Bywgraffiad Joseph Sturge a Mr. Cobden.


(1854) Ysmotyn du ar hanes Prydain ydyw rhyfel y Crimea. Nid oes bron neb yn awr nad yw yn barod i addef ei fod, o leiaf, yn gamgymeriad ofnadwy, os nad oedd yn bechod arswydus.[1] Mae Ceidwadwyr a Rhyddfrydwyr yn cytuno i'w gondemnio. Addefodd Arglwydd Salisbury ei hun yn Nhy yr Arglwyddi amser yn ol, ein bod, trwy y rhyfel hwn, wedi rhoi ein harian ar y "wrong horse." Ond costiodd y camgymeriad hwn tua miliwn o fywydau dynol, a chan miliwn o bunnau i'r wlad hon yn unig. Taflodd gynnydd gwareiddiad flynyddau lawer yn ol, bu yn foddion i osod Twrci—y gallu

mwyaf creulon a fu erioed—ar ei thraed, creodd

  1. Dwedai Mr. Bright, unwaith, y dylid dodi y llythyren a yn y gair Crimea yn ei ddechreu, a'i alw a Crime.