Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

deimlad drwg rhyngom â Rwsia, yr hyn, drachefn, a fu yn rhwystr i unrhyw un o'r galluoedd mawr ymyrryd yn achos y creulonderau a arferwyd tuag at yr Armeniaid yn y blynyddau diweddaf; arweiniodd, fel y profa Mr. Richard, i'r gwrthryfel yn India, ac y mae ei effeithiau niweidiol yn aros hyd y dydd hwn. Ac eto, ni fu erioed ryfel mwy poblogaidd. Yr oedd teimlad y wlad mor angherddol o'i blaid fel nad oedd modd ei wrthsefyll. Ychydig o amser cyn hynny gwaeddai y bobl am i ni osod y wlad mewn sefyllfa o ddiogelwch rhag y trahaus—ddyn Louis Napoleon; ond yn awr ymunent âg ef yn galonnog mewn rhyfel gwaedlyd yn erbyn Rwsia, a mawrygent ef gan ei alw "ein cynghreiriad dewr a theyrngarol." Llusgwyd y wlad i'r rhyfel hwn, yn ddiau, gan y Wasg, yr hon oedd yn porthi nwydau gwaedwyllt y bobl, ac fel march, a'r ffrwyn ar ei war, rhuthrodd ymlaen heb falio am y canlyniadau. Gwnaeth Mr. Cobden, Mr. Bright, a Mr. Richard eu goreu i atal rhywfaint ar y gwallgofrwydd, ond yr oedd fel llifeiriant yn ysgubo popeth o'i flaen. Gomeddwyd gwrando ar Mr. Sturge, hyd yn oed yn Birmingham, lle yr oedd, oherwydd ei garedigrwydd a'i haelioni mor boblogaidd cyn hynny. Llosgwyd gwawd-ddelw o John Bright ar yr heol yn Manchester, ac yn y diwedd