Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

collodd ef a Cobden eu seddau. Ond er hynny ni pheidiodd y gwŷr hyn a llefaru yn groew yn erbyn y rhyfel, a gwnaethant bob ymgais i wrthweithio y llifeiriant. Ond yr oedd y cwbl yn ofer. Fel y dwedai Cobden unwaith, yr oedd ceisio dadleu â John Bull, wedi unwaith i'r fagnel gyntaf gael ei thanio, yr un peth a cheisio ymresymu â chi cynddeiriog.

Pe gofynnid yn awr beth oedd gwir achos rhyfel y Crimea, byddai yn anhawdd ateb. Cododd y cweryl ar y dechreu rhwng Eglwys Rhufain ac Eglwys Groeg mewn perthynas i gael allweddau y "lleoedd santaidd" yn Jerusalem. Amddiffynnai Rwsia y naill, a Ffrainc y llall, ac ymyrrai Lloegr yn y cweryl, er mwyn dal i fyny "gyfanrwydd Twrci," ac i amddiffyn yr hyn y sonnid llawer am dano y pryd hwnnw, er mai ychydig a allai ddweud beth ydoedd, sef "mantoliad, neu gydbwysedd gallu."[1] Nid oedd y wlad yn gyffredinol yn deall llawer, ac yr oedd yn malio llai, am wir achos y cweryl. Yr hyn a deimlai hi oedd fod Rwsia yn Allu

mawr gormesol, a'i bod yn helaethu ei therfynnau ar bob llaw. Cyhoeddid mapiau lliwiedig

  1. Yr oedd rhyw ddylanwad swyngyfareddol gan y geiriau hyn ar y bobl yn gyffredin, fel yr oedd i'r geiriau suzerainty a paramountcy yn nechreu rhyfel Deheudir Affrica.