Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gall gael gafael arnynt. Buom yn eu darllen drosodd drachefn yn ddiweddar, ac y mae y modd y mae Mr. Richard yn cyfarfod â phob dadl o blaid rhyfel—a rhyfel y Crimea yn arbennig—y modd y mae yn ateb ymresymiadau areithwyr Seneddol ac ereill, a hynny mewn iaith gref ond coeth, wedi ein taro â syndod ac edmygedd adnewyddol.

Ysgrifennodd Mr. Richard hanes y cweryl, wedi ei gymeryd allan o'r "Llyfrau Gleision," a lledaenwyd ei Draethawd wrth y miloedd gan y Gymdeithas Heddwch. Ceir yma hanes dechreuad yr helynt, ac i'r neb sydd yn awyddus i gael y gwir ar y cwestiwn nis gall wneud yn well na darllen y Traethawd hwnnw. Y mae yn ddiameu, am y nifer amlaf o lawer o bobl y dyddiau hyn, na wyddant nemawr am wir achos y cweryl, mwy nag y gwyddai yr hen Kasper beth oedd gwir achos rhyfel Blenheim. Gofynnai Wilhelmina iddo,—

"Now, tell us all about the war
And what they killed each other for ?"

Ond y cwbl a allai yr hen filwr ddweud, yn ol Southey, oedd,—

"It was the English," Kasper cried,
That put the French to rout,
But what they killed each other for
I could not well make out;