Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"But every body said," quoth he,
"That was a famous victory!"[1]

Ar ol bod yn rhyfela am ddwy flynedd llawn, ac i Brydain ei hun golli tros ugain mil o fywydau, pedwar o bob pump o honynt, nid ar faes y gwaed, ond yn yr yspytai, gwnaed Cytundeb Heddwch yn Paris, ym mis Mawrth, 1856. Ynglŷn â'r Cytundeb hwnnw, fe wnaeth Mr. Richard waith ag sydd yn haeddu cael ei groniclo yn lled fanwl, gwaith ag y mae un awdwr, nad yw yn ffafriol iawn i amcanion y Gymdeithas Heddwch, yn ei alw y "gwaith mwyaf Cristionogol a wnaeth y Gymdeithas erioed."

Tybiodd Mr. Richard fod y wlad wedi cael digon ar ryfela, ac y gallai fod yn amser ffafriol i geisio cael adran yn y Gytundeb Heddwch o blaid Cyflafareddiad yn y dyfodol. Dygodd sylw Pwyllgor Cymdeithas Heddwch at y mater,

a ffurfiwyd dirprwyaeth gref a dylanwadol—

  1. Hwyrach y caniateir i ni mewn nodiad fel hyn ddweud nad oes dim yn rhoddi mwy o bleser i ni yn awr yu ein hen ddyddiau na’n bod wedi gwneud a allem, pan yn ysgrifennu i'r Amserau ar y pryd i ddadleu yn erbyn y rhyfel ynfyd hwnnw. Dyna'r pryd y daethom i adnabyddiaeth personol a Mr. Richard, ac y cawsom y pleser o ysgwyd llaw â'r hen wron, Joseph Sturge o Birmirgham.—Gwel Y Traethodydd am 1896, t.d. 139.