Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyn a geisid. Danghosai Mr. Richard mor fanteisiol fyddai fod cytundeb mewn bod i gyflwyno materion mewn dadl i gyflafareddwyr, cyn i nwydau pobl gael eu cyffroi, ac yn arbennig cyn i'r newyddiaduron gael cyfleustra i gythruddo y bobl. "Cododd Arglwydd Clarendon ei ysgwyddau," meddai Mr. Richard, wrth adrodd yr hanes, "taflodd ei ddwylaw allan, a chododd ei aeliau, yn dangos ei fod yn teimlo min y sylw, oblegid gwyddai y fath ddylanwad niweidiol a fu y newyddiaduron yn y rhyfel." O'r diwedd dywedodd,—"Mi wnaf fy ngoreu." A chwareu teg iddo, y mae yn ymddangos iddo wneud. Er nad oedd gan y tri wŷr hyn ond gobaith gwan y llwyddent yn eu hamcan, eto yr oedd yn dda ganddynt ddeall wedi hynny fod y Gynhadledd wedi pasio yr adran ganlynol,—

"Nid yw y teyrn-genhadon yn petruso datgan, yn enw eu gwahanol lywodraethau, y dymuniad ar fod teyrnasoedd, rhwng y rhai y gall camddealltwriaeth godi, cyn apelïo at arfau milwrol, yn gwneud defnydd, mor bell ag y bo amgylchiadau yn caniatau, o wasanaeth caredig ryw Allu cyfeillgar."

Nid oedd y penderfyniad hwn mor gryf ag y buasai cyfeillion Heddwch yn dymuno; ond yr oedd yn llawn mor gryf a'u disgwyliadau, a digon cryf i dynnu allan o'r hen Mr. Sturge lythyr diolchgar at Arglwydd Clarendon, am yr