Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyn a alwai ei Arglwyddiaeth "y newydd-beth hapus hwn," ac i beri i Mr. Gladstone ddweud yn y Senedd, ar ol hynny, ei fod yn "datgan math o anghymeradwyaeth o ryfel, ac yn dal i fyny uwchafiaeth rheswm, cyfiawnder, dyngarwch, a chrefydd." Gwnaeth Arglwydd Derby ac Arglwydd Malmesbury sylwadau i'r un perwyl; ac nid oes un amheuaeth fod cael fath adran mewn Cytundeb mor bwysig rhwng teyrnasoedd mawrion fel y rhai a gynrychiolid yn Paris, yn gam pwysig yng nghyfeiriad Cyflafareddiad, a'i fod hefyd yn adlewyrchu clod i lafur, ynni, a phenderfyniad Mr. Richard, yr hwn a fu yn offeryn i ddwyn hyn oddiamgylch. Mae'n wir nad yw y gwahanol Alluoedd wedi dangos nemawr o barodrwydd i gario allan yr adran bwysig hon, mwy na phenderfyniadau Cynhadledd yr Hague ar ol hynny, ond y mae yr Adran yn y Cytundeb er hynny, a bydd yn rhag-gynllun i gyfeirio ato yn y dyfodol.

(1857) Yn y flwyddyn 1857, torrodd rhyfel allan rhwng y wlad hon a China, ac, fel arferol, yr oedd yr achos dechreuol o hono yn un bychan iawn. Gwnaeth Mr. Richard, fel bob amser, ymchwiliad manwl i'r amgylchiadau oddiwrth y papurau Seneddol, a chafwyd mai fel hyn yr oedd pethau yn bod,—Yn Hydref, 1856, byrddiwyd a chymerwyd llong o'r enw