Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Arrow gan yr awdurdodau Chineaidd. Yr oedd y Cadben yn Sais, a honnid mai llong Brydeinig ydoedd, gan ei bod yn chwifio baner y wlad hon. Ar unwaith y mae ein Consul ni yn Canton yn gofyn am i'r llong gael ei rhoi i fyny, onite y tan-belennid Canton ymben wyth awr a deugain. Profwyd wedi hynny mai math o forladron oedd y dwylaw arni, ac nad oedd ganddi un hawl i godi baner Lloegr. Mae Mr. Richard, mewn erthygl gadarn, yn dangos nad oedd y bygythiad ond esgus i geisio cael porthladd Canton yn un rhydd, a hynny, nid er mwyn masnach onest, ond masnach mewn opium yn groes i gyfraith China. Ymosodwyd ar Canton gan ein llongau rhyfel, llosgwyd y ddinas, a chollodd lluaws o wŷr, gwragedd, a phlant eu bywydau. Defnyddiodd Mr. Richard ei ysgrifell i bwrpas, cyffrodd y wlad hon drwyddi, cymerwyd y mater i fyny gan y papurau, dygwyd ef ger bron Tŷ yr Arglwyddi gan Arglwydd Derby, a chan Mr. Cobden yn Nhŷ y Cyffredin, yr hwn a siaradodd am ddwy awr a hanner arno. Gwefreiddiwyd y Tŷ hefyd gan Mr. Gladstone ar yr un ochr. Wrth gwrs, yr oedd Arglwydd Palmerston, y Prif Weinidog, yn amddiffyn yr hyn a wnaed, ond ar raniad y Tŷ cafwyd mwyafrif o 16 yn ei erbyn. Datgorfforwyd y Senedd, ond—fel yn gyffredin, pan fydd nwydau