Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dynion wedi codi o blaid yr hyn a elwir yn Wladweinyddiaeth Dramor benderfynnol—trodd y y wlad yn erbyn barn a chyfiawnder, a chafodd Arglwydd Palmerston fwyafrif o tua 30 o'i blaid. Collodd Cobden a Bright eu seddau. Prawf eto oedd hyn mai ofer ymresymu â gwlad o'i phwyll. Yr oedd y cri am anrhydedd y faner Brydeinig yn byddaru pob cri o blaid tegwch ac iawnder. Heblaw ysgrifau lawer ereill ar y mater, ysgrifennodd Mr. Richard erthygl i'r Morning Star, yn datgan ei ofid fod papurau a ystyrrid yn rhai crefyddol ymysg y rhai mwyaf aiddgar yn amddiffyn yr ymosodiad creulon a barbaraidd hwn ar Canton, pryd y dinistriwyd saith mil o dai, ac y gwnaed deng mil ar hugain yn ddigartref, heb son am y rhai a laddwyd. Amddiffyniad y papurau hyn ydoedd yr agorid drysau i'r Efengyl, ond gofynna Mr. Richard, gyda difrifwch, a ydyw y dynion hyn yn tybied y "derbynia y Chineaid y Beibl o'u dwylaw gyda mwy o lawenydd a diolchgarwch am ei fod wedi ei lychwino â gwaed eu hanwyliaid."

Tua'r amser yma y daeth Mr. Richard i gysylltiad â'r newyddiadur dyddiol, y Morning and Evening Star, yr hwn a gychwynwyd yn 1855. Yr oedd llawer o gyfeillion Heddwch yn tybied y dylesid cael newyddiadur a fyddai yn