Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

(1860) Ym mis Gorffennaf, 1860, dygodd Arglwydd Palmerston fesur i'r Tŷ o blaid cael gweithydd amddiffynnol o gwmpas y dockyards, a'r ystordai arfau, a phorthladdoedd Dover a Portland, ac yr oedd am wario un filiwn ar ddeg o bunnau arnynt. Cymerodd yn ei ben fod perygl y buasai Louis Napoleon yn ceisio glanio milwyr ar yr ynys hon. Yr oedd, meddai, mewn llythyr at Arglwydd John Russell, yn ei ddrwgdybio, er mai efe oedd y cyntaf i fyned allan o'i ffordd i'w dderbyn â breichiau agored pan, wedi hynny, y trawsfeddiannodd lywodraeth Ffrainc. Byddai Mr. Richard yn gwawdio yr "hen gri" hwn am ddisgyniad sydyn Ffrainc arnom, cri a godwyd lawer gwaith cyn, ac wedi hynny, a gwnaeth ei oreu i geisio ei wrthweithio. Areithiodd ac ysgrifennodd yn erbyn y cri ynfyd a disail. Galwodd sylw at y treuliadau anferth ar y fyddin a'r llynges, a bod y wlad, er hynny, byth a hefyd yn gwaeddi ei bod yn ddiamddiffyn; danghosodd mai cri ydoedd ag oedd wedi codi oddiwrth y swyddogion milwrol, ac mai mwy rhesymol o lawer fuasai defnyddio rhyw foddion i geisio gan wahanol Alluoedd Ewrob leihau, yn hytrach nag ychwanegu, eu harfau milwrol. Yr oedd ganddo sail i gredu, meddai, nad oedd y cyffro ond ymgais y blaid filwrol a'r diffyndollwyr i wrthweithio ymdrech