Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mr. Cobden i uno Ffrainc a Lloegr trwy y Cytundeb Masnachol yr ydoedd yn ceisio ei ddwyn oddiamgylch. Heblaw ysgrifennu fel hyn, traddododd Mr. Richard areithiau mhrif drefydd Lloegr ar y cwestiwn.

(1861) Yn Ebrill, 1861, aeth gyda Mr. Joseph Cooper, fel dirprwyaeth dros y Gymdeithas Heddwch, gydag anerchiad at bobl Ffrainc ar yr achos. Derbyniwyd y "cenhadon hedd" hyn yn groesawus yn Paris, ac argraffwyd yr anerchiad ym mhrif bapurau Ffrainc a gwledydd ereill y Cyfandir. Ymhen blwyddyn wedi hyn cynhaliwyd yr Arddanghosfa fawr yn Llundain; daeth y Ffrancod ac ereill drosodd, nid i oresgyn Prydain, ond i'r Arddangosfa Cymerodd Mr. Richard fantais ar yr achlysur i gyhoeddi anerchiadau i'r dieithriaid mewn gwahanol ieithoedd, gwahoddwyd hwynt i gyfarfod mawr, lle y cyflwynwyd anerchiad cyfeillgar iddynt, ac arwyddwyd yr anerchiad gan Mr. Joseph Pease, llywydd Cymdeithas Heddwch, a Mr. Richard, yr ysgrifennydd. Anogwyd hwynt i gyffroi eu gilydd i ffurfio barn gref o blaid lleihau nifer milwyr ac arfau milwrol eu gwahanol wledydd. Ar ol hyn traddododd Louis Napoleon araeth dra heddychol, a chynhygiodd ar fod Cynghrair Heddwch i gael ei gynnal yn Paris i osod Ewrob, os oedd modd, ar sail gadarnach