Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nag erioed. Hyd yn oed yn y flwyddyn 1860, yng nghanol yr holl gyffroadau mewn perthynas i ymosodiad ar Loegr gan Louis Napoleon, ysgrifennodd yr Ymherawdwr hwnnw at gennad Ffrainc yn Llundain ar iddo ddweud wrth Arglwydd Palmerston mai ei amcan mawr oedd bod yn heddychol â'i gymdogion, ac yn enwedig Lloegr. Gallwn grybwyll yn y cysylltiad hwn fod yr Ymherawdwr yn 1863 wedi gwneud cynhygiad ffurfiol at wahanol benaduriaid Ewrob i alw Cynghrair rhyng-wladwriaethol yn Paris i'r diben o ystyried a phenderfynnu cwestiynau mewn dadl, a diogelu heddwch Ewrob. Cydsyniodd Rwsia a Phrwsia, Itali, Denmarc, Belgium, Yspaen, Sweden, Norway, Portugal, Groeg, a'r galluoedd ereill â'r cynhygiad. Ond, y mae yn ofidus dweud, y gwrthododd Lloegr, trwy law Arglwydd John Russell, yr Ysgrifennydd Tramor, ar y tir na fyddai dim grym y tu ol i benderfyniadau y Cynghrair i'w cario allan! Buasid yn meddwl y buasem yn cofleidio pob cynhygiad o'r fath. Ond yr oedd yn eglur nad oedd gennym ar y pryd ddim ffydd mewn nerth moesol. Dadleuodd Mr. Richard dros y cynhygiad yn gryf, a thynnodd allan anerchiad oddiwrth y Gymdeithas Heddwch at yr Ymherawdwr, yn yr hwn y dywedai, os llwyddai yn ei amcan o arwain Galluoedd Ewrob yn llwybrau cyflafareddiad