Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a diarfogiad, yr enillai fwy o ogoniant nag y gallai byth ennill oddiwrth fuddugoliaethau milwrol. Danfonodd yr Ymherawdwr atebiad caredig yn ol, yn datgan cymeradwyaeth o'r syniadau yn yr anerchiad, a'i awydd am gadw heddwch yn Ewrob. Onid yw yn resyn, mewn difrif, na wnai penaduriaid Ewrob gydymgais mwy yn y cyfeiriad hwn yn lle yng nghyfeiriad buddugoliaethau milwrol? Ond i ddychwelyd, cymerodd Mr. Richard ran arbennig ac anibynnol yn helynt y rhyfel cartrefol yn America y flwyddyn hon (1861). Gwyr y rhan fwyaf o'n darllenwyr, yn ddiau, y modd yr arweiniwyd i'r rhyfel ofnadwy hwnnw. Bod etholiad Abraham Lincoln, yn 1860, wedi tynnu llinnell glir rhwng Gogledd a De Unol Dalaethau yr America, a bod y gaethfasnach wrth wraidd y drwg-deimlad rhyngddynt sydd eglur, er bod rhai cwestiynau masnachol yn eu gwahannu hefyd. Penderfynnodd y De ymwahannu, ac ar y 9fed o Ionawr taniwyd y belen gyntaf ganddi; ond penderfynnodd Lincoln na cheid torri yr Undeb, a phenderfynwyd ei gadw trwy nerth milwrol. Yr oedd Mr. Richard, er cymaint ei gasineb at y gaethfasnach, yn erbyn gwaith y Gogledd yn penderfynnu cadw yr Undeb trwy rym arfau. Dadleuai nad oedd yn iawn ceisio rhoddi un drwg i lawr trwy gyflawni drwg