Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arall; a mwy, profai trwy dystiolaeth Lincoln a'r Gogleddwyr eu hunain mai nid diddymu caethwasiaeth oedd eu hamcan, ond cadw yr Undeb. Dadleuai Mr. Gladstone yn yr un modd. Yr oedd y rhan fwyaf o'r rhai a ddadleuent dros fyned i ryfel â'r De yn cashau y dyn du gymaint a'r Deheuwyr, os nad yn fwy. Gofidiai Mr. Richard fod cynifer o bleidwyr Heddwch yn America wedi ymollwng gyda'r llifeiriant rhyfelgar, ac ysgrifennodd lythyr maith atynt—caredig, ond cryf—yn dadleu yr holl gwestiwn. Ysgrifennodd un yn benodol at Mrs. H. B. Stowe, llythyr sydd yn dangos medr ymresymiadol tu hwnt i'r cyffredin, ond llythyr sydd yn llawn o gydymdeimlad âg ysbryd Mrs. Stowe er hynny. Hyd yn oed, a chaniatau fod gwŷr y Gogledd yn ymladd dros ddiddymiad caethwasiaeth—yr hyn nad oedd yn amcan uniongyrchol ganddynt—ac er fod y gyfundrefn honno yn un mor felldigedig, eto yr oedd Mr. Richard yn haeru fod rhyfel yr un mor felldigedig. "A ydyw yn bosibl," gofynnai, "y gallwn edrych gyda phleser ar ddynion yr ydym yn eu parchu gymaint, pan welwn hwynt, gyda breichiau agored, yn rhedeg i gofleidio drwg arall sydd yr un mor echryslon?" Yr oedd Mr. Richard yn pleidio gwaith y wlad hon yn edrych ar y De fel yn meddu hawliau cenedl, a'r rhyfel, o ganlyniad, fel rhyfel