Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhwng dwy genedl wahannol, a dadleuai, gyda nerth a dysgeidiaeth anghyffredin, yr un wedd ar y cwestiwn a Mr. Gladstone ac Arglwydd John Russell. Nid ydym am geisio penderfynnu y cwestiwn dyrus hwn, ond os darllennir ysgrifau Mr. Richard ar y mater, credwn y canfyddir fod yn haws eu hwtio na'u hateb.

Yng nghanol y cythrwfl ofnadwy rhwng y De a'r Gogledd, torrodd achos y Trent allan. Mae'n ymddangos fod y De wedi danfon dau Seneddwr, Mri. Sliddell a Mason, fel cenhadon i Loegr a Ffrainc. Pan yn y llong Brydeinig, y Trent, cymerwyd hwy i'r ddalfa gan y San Jacinto, llong yn perthyn i'r Gogledd, a chariwyd hwynt i Fort Warren. Yr oedd Lloegr ar ei thraed ar unwaith yn gofyn am eu rhyddhad neu ryfel. Danfonwyd milwyr i Canada, hyd yn oed cyn cael amser i gael atebiad mewn perthynas i ryddhad y ddau genad. Tra yr oedd yr ystorm o deimladau brwd fel hyn yn rhuo, cyhoeddodd Mr. Richard anerchiad at y gwahannol enwadau crefyddol i erfyn arnynt arfer eu dylanwad i "sefyll i fyny yng nghanol yr ystorm, ac yn enw eu Meistr Dwyfol, i geryddu y dygyfor ofnadwy o nwydau dynol." Yr oedd yr anerchiad hwn yn un cryf dros ben. Heblaw hynny, aeth Mr. Pease ac yntau yn genhadon at Arglwydd Palmerston i erfyn arno, os methid