Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cytuno, i gyfeirio y mater i farn cyflafareddwyr. Yn ffodus, yn y cyfwng hwn, cyfryngodd Louis Napoleon yn ffafr Lloegr, a rhyddhawyd y ddau gennad.

Parhaodd y rhyfel rhwng y De a'r Gogledd, fel y gwyddis, am bedair blynedd. Daliai Mr. Richard o'r farn o hyd mai unig amcan y Gogledd oedd cadw yr Undeb. Dyfynnai eiriau y Llywydd Lincoln, yr hwn a ddywedai,—"Fy amcan uwchaf yn yr ymdrech ydyw cadw yr Undeb, ac nid i gadw na dinistrio y gaethfasnach. Pe gallwn gadw yr Undeb, heb ryddhau un caethwas, mi wnawn; a phe gallwn ei wneud trwy ryddhau yr holl gaethion, mi wnawn hynny hefyd. Yr hyn yr wyf yn ei wneud gyda golwg ar y gaethfasnach, yr wyf yn ei wneud i gadw yr Undeb, a'r hyn yr wyf yn ymatal rhag ei wneud, yr wyf yn ymatal er cadw yr Undeb."

Nid peth ysgafn oedd gan Mr. Richard wahaniaethu oddiwrth ei gyfeillion mynwesol, Mri Cobden a Bright, ar y modd y dylasai Prydain edrych ar sefyllfa y De a'r Gogledd yn eu perthynas â'r wlad hon, ond meddai ar ddigon o benderfyniad i lynnu wrth yr hyn a ystyriai yn egwyddor, hyd yn oed i wneud hynny. Pan ddaeth y Parch. Henry Ward Beecher drosodd i'r wlad hon i ddadleu achos y Gogledd, ac y