Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhagluniaeth wedi dwyn da o'r ymgyrch yn profi ei fod yn un uniawn. Yn wir, y mae cryn nifer o wŷr doeth yn teimlo fod cwestiwn y dyn du yn yr America ymhell o fod wedi ei benderfynnu eto. Pa fodd bynnag, gadewch i ni droi i weled sut yr oedd Mr. Richard yn edrych arno ar derfyniad y rhyfel. Mae y brawddegau canlynol allan o adroddiad blynyddol y Gymdeithas Heddwch yn 1865, yn werth eu dyfynnu, gan eu bod yn eiriau Mr. Richard ei hun,—

"Boddhad anhraethadwy i ni ydyw fod y rhyfel cartrefol, dinistriol ac ofnadwy hwn, yn tynnu at ei ddiwedd. Nid oes dim dychymyg a all ddyfalu, dim iaith a all yn ddigonol draethu, paint y niwed a wnaeth i'r wlad honno i'r byd. Mae'n debyg nad oes dim llai na miliwn o wyr ieuainc wedi trengu cyn eu hamser, ac ym mhob ffurf o ing a phoen, trwy'r cleddyf, newyn, a haint. Ac am y gost, byddem yn sicr o fewn y marc pe dywedem fod, ar y ddwy ochr, fil o filiynnau o bunnau, wedi eu tyunu oddiwrth wasanaeth gwareiddiad i'w hafradu mewn celanedd a gwaed."

Ar ol nodi y dinistr ar eiddo, yr ing meddyliol mewn miloedd o deuluoedd trwy'r gweledydd, dylanwad niweidiol y rhyfel mewn ystyr foesol, dywed,—

"Y mae un ysmotyn disglaer, pa fodd bynnag, yn aros…Nid oes, mae'n wir, un canlyniad all gyfiawnhau defnyddio moddion anghyfreithlon, ond fe ellir caniatau, hyd yn oed i'r rhai hynny oeddent yn