Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anghymeradwyo y rhyfel fwyaf, lawenhau oherwydd y ffaith, neu yr hyn a hyderant a fydd yn ffaith, mai un canlyniad fydd, derfydd y peth ffiaidd hwnnw, caethwasiaeth, o'r tir am byth. Credai y pwyllgor, fod moddion ereill, a mwy effeithiol, er, fe allai, nid mor gyflym, o ddwyn hyn oddiamgylch. Byddai dweud nad oes un modd i ddymchwel drygioni, ond yr un y mae Cristionogaeth yn ei gondemnio, yn wadiad ymarferol o'i effeithioldeb. Yr ydys yn llawenhau, er hynny, fod y caeth i gael ei wneud yn rhydd; ond buasai y llawenydd yn fwy pe buasai llawryf buddugoliaeth am y waredigaeth fawr hon yn cael ei osod ar ben Brenin Heddwch yn lle ar ben

"Moloch, horrid King! besmeared with blood,"

i ychwanegu at ei ogoniant, ac estyn ei lywodraeth anifeilaidd ar feddyliau a chalonnau plant dynion."

(1863) Gwnaeth Mr. Richard ei oreu gyda chyfeillion Heddwch i rwystro ein rhyfel diangenrhaid â Japan. Yr oedd llynges Prydain yn myned ymlaen i fynnu iawn am ryw ymosodiad a wnaed ar Saeson yn Yokohama; ac ar y 14eg o Awst, 1863, tan-belennwyd Kagosima, gyda'i phoblogaeth o 180,000, a llosgwyd yr holl dref mewn ychydig iawn o amser. Nid rhyfedd i Mr. Cobden, wrth ddesgrifio yr hafog ofnadwy, ofyn pa drosedd oedd y trueiniaid hyn wedi ei gyflawni i alw am y fath ymosodiad creulon. Mewn canlyniad i ymdrechion y Gymdeithas Heddwch, trwy ei hysgrifennydd, yn gosod y mater ger bron, a llafur eu cyfeillion,