Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llwyddwyd i gael gan Arglwydd Clarendon ddanfon at y prif-lyngeswyr nad oeddent o hyn allan i ymgymeryd â than-belennu trefydd heb ganiatad! Mor dyner y cerydd am y fath gamwri ofnadwy!

(1864) Yn nechreu 1864 gwnaeth Mr. Richard a phlaid Heddwch waith da, yn ceisio atal Prydain rhag ymyryd i wneud rhyfel yn erbyn Prwsia ac Awstria ar ran Denmarc; Heb fyned i mewn i achos yr helynt, digon yw dweud fod Arglwydd John Russell ac Arglwydd Palmerston yn awyddus i roddi eu bys yn y cawl hwnnw, ond arferodd Mr. Cobden yn y Tŷ, a Mr. Richard y tu allan iddo, bob moddion a allent i wrthweithio yr ymyriad. Yr oedd Prydain yn dibynnu hefyd i fesur ar yr hyn a wnai Ffraingc, a darfu iddi hi, ar y diwedd, betruso; a thrwy y cyfan, llwyddwyd i atal y gyflafan ofnadwy a fuasai yn canlyn y fath ymyriad annoeth, ac i roddi un esiampl arall o'r hen athrawiaeth ryddfrydig o beidio ymyryd â chwerylon gwledydd tramor.

Pan dorrodd gwrthryfel allan yn Poland, yn y flwyddyn 1864, yr oedd Mr. Richard yr un mor wrthwynebol i ymyryd y pryd hwnnw, nid yn unig oddiar egwyddorion heddwch, ond am ei fod yn credu nad oedd y blaid wrthryfelgar yn codi i amddiffyn rhyddid, ac mai y dosbarth