Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pendefigaidd oedd yn llawn o ddallbleidiaeth Babaidd. Danghosodd ynfydrwydd y fath ymyriad, er fod rhai yn dadleu fod gennym hawl i wneud hynny yn ol hen gytundeb Vienna!

Ebai y Manchester Examiner and Times y pryd hwnnw,—"Y nefoedd fawr a'n gwaredo rhag cael ein gorfodi i ymladd dros bob hawl sydd gennym. Mae gan bob teithiwr hawl i ochr dde y ffordd, ond byddai yn ddoeth i ddyn gwan, teneu, beidio mynnu ei hawl yn erbyn cawr o lafurwr ymladdgar."

Yr oedd Mr. Richard yn gyfaill calon, fel y gwelwyd, i'r hen Grynwr dewr a haelfrydig, Joseph Sturge o Birmingham, gŵr yr oedd ei enw yn hysbys trwy yr holl fyd gwareiddiedig ymron. Nid oedd un symudiad dyngarol na diwygiadol heb fod Mr. Sturge yn barod i'w gynhorthwyo â'i arian ac â'i lafur personol. Pan fu Mr. Sturge farw, dymunai y teulu i Mr. Richard ysgrifennu Cofiant iddo. Nis gallai nacau, er fod ei ddwylaw yn llawn o waith eisoes. Nid oedd un cyfaill mwy haelionnus at y Gymdeithas Heddwch na Mr. Sturge, nac un a wnaeth fwy drosti. Ymgymerodd Mr. Richard, gan hynny, a'r gwaith o ysgrifennu ei Fywgraffiad. Bu farw Mr. Sturge yn 1859, ond oherwydd nad oedd gan Mr. Richard ond ei oriau hamddenol, megys, i ysgrifennu y