Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/1

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HANES BYWYD A LLAFUR

JOHN WESLEY

  MAE JOHN WESLEY yn un o'r dynion mwyaf hynod mewn duwioldeb a llafur a ymddangosodd ar y ddaear er dyddiau Paul yr Apostol, ac nis gall byr hanes ei fywyd lai na bod yn fendithiol i'n darllenwyr. Ni chaniatâ gofod i ni roddi ond crynodeb byr ac amberffaith o'i hanes, a hyny yn benaf o'i lafur a'i erlidigaethau. Mab ydoedd i'r Parch. Samuel Wesley, a Susanah ei wraig. Llafuriai ei dad yn mhlwyf Epworth, fel gweinidog perthynol i'r Eglwys Sefydledig. Disgynai ei rieni, yn ochr ei dad a'i fam, o fonedd uchelfri. Ganed iddynt bedwar-ar-bymtheg o blant, a'n gwrthddrych ydoedd eu pymthegfed plentyn. Ganed ef Mehefin 17eg, 1703, yn mhersondy Epworth, a bedyddiwyd ef yn mhen ychydig oriau yn John Benjamin. Yn gynar iawn dropiwyd Benjamin o'i enw. Magwyd ef yn y modd mwyaf rheolaidd a gofalus. Yr oedd ei fam yn un o'r mamau rhagoraf, a'i dad yn wr o dalent, dysg, a duwioldeb diffuant.

Yn y flwyddyn 1709, pan nad ydoedd John Wesley ond chwe' mlwydd oed, llosgwyd y persondy am yr ail waith; a bu agos iawn i'w fywyd fyned yn ysglyfaeth i'r fflamau echryslawn. Un noson, pan oedd y teulu oll wedi myned i dawel hûn, deffrowyd y clerigwr gan lais o'r heol yn gwaeddi Tân, tân!" Pan ddeallodd efe ystyr y waedd, cyfododd ac agorodd ddrws ei ystafell wely, a gwelai fod y ty ar dân, a'r to ar syrthio i mewn. Yn ddiatreg, galwodd ei deulu i fyny, ac ar unwaith i ddiange allan am eu heinioes; ac yn mhen ychydig funudau, wedi diange o honynt, rhai drwy y ffenestri, a'r lleill drwy ddrws yn yn nghefn y tŷ, wele y tad a'r fam, y plant a'r morwynion, allan o gyrhaedd y perygl. Ond wedi ymbwyllo ac edrych, och yr oedd John bach ar ol! Ymddengys fod Charles, y baban dau fis oed, tair chwaer bach, John eu brawd, a'r fagwraig, oll yn cysgu yn yr un ystafell pan dorodd y tân allan. Yn ei dychryn a'i brys, wedi cipio y baban yn ei breichiau, a gorchymyn i'r plant ereill i'w dylyn, rhuthrodd y llangces allan, gan adael John ar ol, heb gofio ei ddeffro. Pan welwyd ei golli, yr oedd eu braw yn ddirfawr! Ar hyn clywyd gwaedd plentyn yn nghanol y tân. Rhuthrodd y tad drwy y mŵg a'r tân i mewn drwy y drws, gan geisio dringo y grisiau i achub ei blentyn; ond torodd y grisiau llosgedig o dan ei draed. Pan welodd hyn penliniodd yn y cyntedd tanllyd i gyflwyno ei blentyn i ofal Gwaredwr y tri llange. Yn y cyfamser, deallodd y bachgen ei berygl, dringodd ar y ffenestr, a thaflodd hi n agored. Yna gwelwyd ef ond pa fodd y gellid ei achub Nid oedd ysgol yn agos, nac amser i gyrchu un o bell. Angenrhaid yw mam dyfais. Mor gyflym ag ymdaith y fellten, safodd un dyn cryf wrth y pared dan y ffenestr, dringodd dyn arall i fyny ar ei ysgwyddau; a phan oedd y to ar syrthio, a'r gwyddfodolion yn dal eu hanadl, achubwyd y plentyn, "fel pentewyn o'r tân!" Arweiniwyd y fam feddylgar gan yr amgylchiad hwn i gasglu fod gan Dduw waith o bwys i'w mab achubedig i'w gyflawni; a gwnaed argraff ddofn o ddifrifwch ar ei feddwl yntau hefyd, yr hon a barhaodd am weddill ei oes.

Dygwyd ef i fyny yn ofalus a deheuig, a dechreuodd ymddadblygu yn fore mewn dealltwriaeth a chrefyddolder. Yn ei wythfed flwyddyn, derbyniodd y cymun o law ei dad; a phan oedd yn ddeng mlwydd a haner, efe a anfonwyd oddi cartref i'r ysgol. Fel ei holl frodyr a'i chwiorydd, addysgwyd John Wesley yn elfenau addysg gan ei fam. Yn y flwyddyn 1714, anfonwyd ef i Ysgol y Charterhouse, yn Llundain. Yn yr ysgol hono yr addysgwyd Addison a Steele, a Barrow a Blackstone, ac amryw enwogion ereill. Er fod John Wesley yn derbyn ei ddillad a'i addysg yn rhad yno, dyoddefodd gryn galedi a cham oddiar law y bechgyn mawr, ac ofnai y buasai ei iechyd wedi pallu oni bai am yr arferiad oedd ganddo o redeg dair gwaith o gwmpas