Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neb ei gyffwrdd, er eu bod wedi ymgasglu o bwrpas i'w ddal a'i ddyfetha. A llawer gwaith y dychwelodd erlidwyr o'r oedfaon dan weddio.

O ran ei berson, nid oedd gan John Wesley ond corph bychan—ychydig byrach na'r taldra canolig, ond fod hwnw o'r defnyddiau goreu, ac o'r gwneuthuriad mwyaf hylaw a chymesurol i'w alluogi i gyflawni gwaith mawr ei oes yn y modd esmwythaf iddo ei hun. Yr oedd ei lywethau fel gwiail haiarn o ran gwydnwch; nid oedd ganddo ronyn o gnawd afreidiol o'i gwmpas, ac yr oedd adnoddau ei yni anianyddol yn —ddihysbydd. A diau fod ei arferiad o foreu—godi, newid awyr, teithio ar geffyl, a phregethu yn bore, ynghyda'i reoleidd—dra perffaith mewn llafur, ymborth, a chwag, wedi caledu ei gyfansoddiad i'r fath raddau, a sefydlu ton uchel o iechyd iddo, i fesur anhygoel. Ac fel y mae yn hysbys, bu fyw i fyned yn hen, ac yn anarferol hoyw a llafurus yn ei hen ddyddiau. Arfaethodd i ymweled âg America yn ei 67ain mlwydd oed; a buasai wedi cyflawni ei fwriad oni bai fod yn amhosibl iddo adael yr holl eglwysi oedd dan ei ofal yn y deyrnas hon. Ysgrifenodd air yn ei ddyddlyfr i'r perwyl "nad oedd wedi colli un noson o gwsg yn ystod y 70ain mlynedd." Ymwelodd â Holland ddwy waith ar ol pasio ei 80ain oed. Pan yn 82ain, cawn ei hanes yn cychwyn am yr Iwerddon. Pregethai ar hyd y ffordd o Lundain i Liverpool, a phregethai ddwy neu dair gwaith yn y dydd yn yr Ynys Werdd tra y bu yno. Dychwelodd i Lundain yn mhen dau fis, ar ddydd Gwener; a'r Sabbath canlynol, pregethodd ddwywaith yn City Road, a chyfarfyddodd A chynulleidfa aruthrol o blant yn yr un lle am bump o'r gloch y bore dranoeth. Cyfansoddai bregethau newydd gyda chywirdeb neillduol pan yn 86ain. A phan yn 87ain, tynodd allan iddo ei hun blan pregethu am dri mis, a chadwodd bob cyhoeddiad oedd arno, a chryn lawer o oedfaon achlysurol heblaw hyny. Dywedir fod llyfinder a gloywder dyn deugain oed yn prydferthu ei rudd, a dysgleirdeb a bywiogrwydd llengcyn ugain oed yn gwreichioni yn ei lygad, pan yr oedd eira pedwar ugain gauaf yn gorphwys ar ei ysgwyddau! Goroesodd brydles yr hen foundry, a phregethodd yn Kings wood dan gysgod coed a blanwyd yno â'i law ei hun! Pan fu farw, deuddeng mlynedd oedd rhyngddo a bod yn fab can' mlwydd! Rhaid fod gan ddyn a lafuriodd mor galed, a ddyoddefodd mor fynych, ac er pob peth, a fu byw mor hir, gorph o'r defnyddiau a'r gwneuthuriad goreu. Yn y corph bychan hwnw, preswyliai enaid uwchraddol a choeth. Tra na ddylid rhestru John Wesley gyda Francis Bacon, Isaac Newton, a Joseph Butler, yn y dosparth uchaf â roddwyd iddo gan rai o'i fywgraffwyr. Y mae yn amheus a oes neb o'i flaen mewn teilyngdod yn y dosparth olaf. Meddai athrylith o radd uchel, yn yr hon y cyfarfyddai llawer o alluoedd mewn cymesuredd rhagorol. Yr oedd athrylith mawr yn ei deulu, ar du ei dad a'i fam, er's cenedlaethau lawer; a diau ei fod yntau yn berchenog athrylith gref ac amrywiaethog, a nodweddid gan graffder, treiddioldeb, a chyflymdra. Dichon nad oedd ei grebwyll ond cyffredin, er nad oedd yn amddifad o'r gallu gwerthfawr hwnw; ond nid yn hyn y llechai ei ragoriaeth. Y mae y dyb fod trefniadau eang a manwl y cyfundeb a sefydlodd yn ffrwyth dychymyg rymus oedd wedi tori cynllun yn mlaen llaw, yn seiliedig ar syniad hollol gyfeiliornus am nodwedd meddwl John Wesley. Nid un felly oedd efe mewn un modd. Rhagwelai i'r dyfodol yn mhellach na llawer, a hyny mewn goleuni clir iawn; ac yr oedd yn ddihafal o fedrus i adnabod y ffordd oreu ar y pryd i droi pethau sydyn ac anocheladwy yn wasanaethgar i amcanion ei alwedigaeth nefol. Ond cyfodai hyn oll oddiar graffder a chyflymdra ei feddwl i ddirnad pa fodd yr oedd pethau yn sefyll yn eu perthynas â'u gilydd ar y pryd, a pha fodd i weithredu ddoethaf yn eu gwyneb, yn fwy nag oddiar allu creadigol uchelryw a chyrhaedd bell i dynu allan gynlluniau cyfrwys a phellgyrchol flynyddau yn mlaen llaw. Ni feddai Wesley y cymhwysder lleiaf oll i wneuthur y dydd—freuddwydiwr Utopaidd a ffrwythlawn. Ond mewn craffder i weled i mewn i bwngc, ei ddosparthu i'w elfenau cyntaf, a'i adnabod yn ei burdeb syml a'i berthynasau troellog, a hyny mewn amser byr, saif John Wesley yn arbenig a diguro. Gan nad beth fyddai natur y pwngc, neu ei ddyeithrwch— pa un bynag ai cyfrinion y Mystics, Principia Newton, neu Plays Shakspeare, fyddai testyn el ymchwiliad yr oedd llygad ei feddwl mor loyw, ei gyllell arddansoddol mor finiog, ei afael mor sicr, a'i ergydion mor gywir, cyflym, a diarbed, fel na ddiangai dim a syrthiai i'w ddwylaw cyn cael ei chwilio yn llwyr a'i adnabod yn drwyadl. Meddai gof cyflym a gafaelgar, fel y dywedir fod testyn gwreiddiol y Testament Newydd ar benau ei fysedd. Arddengys gryn lawer o alluoedd a thueddfryd y beirniad;