Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymddengys fod anianawd ei feddwl yn tynu at yr athronyddol. Ceir gweithiau Locke,. Reid, a Browne yn mhlith ei lyfrau dewisol. Blinwyd et ar adegau gan ryw amheuon meddyliol, na wyr ond dynion meddylgar ddim am danynt; a da fod ei angor o'r tu fewn i'r llen. Ac at y cwbl, yn yr oll o'i weithrediadau, yr oedd ei feddwl yn gwbl ymarferol.. Nid y damçanwr awyrol a dibwrpas ydoedd ef; ond ceisiai yn wastad ddarostwng ei ymchwiliadau i olygiadau ereill, yn ogystal a'i fyfyrdodau ei hun, i ffurfiau ymarferol. Fel aml i ddyn mawr, amlochrog ei athrylith, ceid rhai teithiau croesymdynol yn nghymeriad ei feddwl; megys amheuyddiaeth ac efergoeledd, yr athronaidd a'r ymarferol, hoffder at yr eglur ac at y cyfriniol. A dichon y ceir esboniad ar hyn, ond ymofyn am rai o honynt yn ngogwyddiadau ei galon, a'r lleill yn maes cynhenid ei. ddealltwriaeth. Diau na saif neb o'i flaen yn yr ail ddosparth o feddylwyr. Derbyniodd addysg dda, o ran cylch a chyflwyredd. Dechreuwyd cwrs ei addysg gan ei fam yn yr adeg a'r modd goreu yn bosibl. Treuliold saith mlynedd a haner dan addysg yn y Charter House, yn Llundain; ac yna bu am chwe' blynedd fel myfyriwr, a blynyddau lawer fel athraw, yn Mhrifysgol Rhydychain. Ac y mae ei lwyddiant i enill ysgoloriaeth, a'i radd o Athraw y Celfyddydau, ynghyda chymrodoriaeth yn Oxford, ei hyddysgedd mewn cynifer o iethoedd, a'r feistrolaeth a feddai dros resymeg a meintonaeth, yn dangos ddarfod iddo werthfawrogi ei fanteision, a dyfod yn ysgolhaig da. Yn Lladin y byddai efe a'i frawd Charles yn ymddiddan pan wrthynt eu hunain. Cyhoeddodd ramadegau at wasanaeth ysgolion Kingswood yn yr ieithoedd Saesonig, Ffrangcaeg, Hebraeg, Groeg, a Lladin. Cyfieithodd wyth ar hugain o hymnau o'r iaith Germanaeg; a dywedir y gallai ddarllen a siarad yr ieithoedd Yspaenaeg, Italaeg, a'r Isellmynaeg. Ystyrid ef yn gyffredin yn feirniad da yn yr ieithoedd clasurol. Bu yn athraw mewn rhesymeg, yn Greek lecturer, ac yn gymedrolwr y dosparthiadau yn Rhydychain am rai blynyddau. Cydnabyddid ef yn un o resymwyr goreu y brifysgol y tymhor hwnw. Mewn gair, trefnodd Rhagluniaeth fod i John Wesley gael yr addysg oreu y gallai y byd ei rhoddi i ddyn ieuangc yn y canrif diweddaf; a gwnaed ef yn ystyr priodol y gair yn ysgolhaig.

O ran ei ddaliadau athrawiaethol, coleddai Wesley yr hyn y gellir ei alw yn "Arminineth Efengylaidd." Dysgai ef yn groyw fod cadwedigaeth pechadur o ras, tra y gwasgai ar y dyn i weithio allan ei iachawdwriaeth "trwy ofn a dychryn." Nodwedd amlycaf ei weinidogaeth a'i gyfundrefn dduwinyddol ef oedd crefydd y galon—megys cyfiawnhad trwy ffydd, tystiolaeth yr Yspryd, adenedigaeth, a pherffeithrwydd Cristionogol. Dichon nad oes neb wedi traethu yn fwy pendant ar y pyngciau hyn nag efe. Dygasid ef i fyny yn Eglwyswr selog; ac yn moreu ei oes, diau ei fod yn Uchel—Eglwyswr, o ran barn ac ymarferiad; a choleddai barch mawr i'r Eglwys, ac ymlyniad proffesedig wrthi hyd ei fedd. Ond camsyniad dybryd yw golygu y coloddai yr un syniadau am dani, ac y safai yn yr un berthynas â hi ar ol ei droadigaeth yn 1738, ag a wnelsai cyn hyny. Dengys ei waith yn pregethu ar dir anghysegredig, yn gweinyddu y sacrament mewn capeli, yn ordeinio lleygwyr i waith y weinidogaeth, ac yntau heb fod yn esgob, yn cynal cynadleddau blynyddol, ac yn tynu allan weithred gyfreithiol i ddyogelu nawdd llywodraeth y wlad dros y cyfundeb yn ei hanfodiad gwahaniaethol, fod cyfnewidiad dirfawr wedi cymeryd lle yn ei feddwl; herwydd bu adeg pan y buasai yn ei ystyried bron yn bechod achub enaid, os na chymerai le mewn eglwys. Os mynir ei hawlio fel Eglwyswr, canfyddir y gwneir hyny ar draul ei wneuthur yr Eglwyswr mwyaf anghyson âg ef ei hun y clybuwyd am dano erioed. Ar y llaw arall, hollol anghywir fyddai sôn am John Wesley yn rhwygo yr Eglwys er mwyn ffurfio sect o ddylynwyr iddo ei hun. Yr oedd hyny mor bell o fod yn amcan ganddo ag ydyw y dwyrain oddiwrth y gorllewin. Nid yn hyn y ceir yr agoriad i'w fywyd cyhoeddus, ond yn hytrach yn ei gwbl ymroddiad i "efengylu ir tylodion." iachawdwriaeth y werin ydoedd arwyddair ei fywyd. Dewisodd yr amcan yma yn gynar, ac ymwerthodd iddo— hyd derfyn ei oes. Hyn sydd yn cyfrif am symledd ei arddull, nodwedd ei gyhoeddiadau, a helaethrwydd ei elusenau. A chanlyniad ei lwyddiant yn hyn a roddodd fodolaeth i Drefnyddiaeth Wesleyaidd. Ymddegys fod ei olwg hyn cyn ei droadigaeth. Dyma a'i cymhellodd i ymweled â charcharorion pan yn Rhydychain, yn gystal ag i groesi y môr gyda'r bwriad o lafurio fel cenadwr yn Georgia. Yn apostol y werin y treuliodd ei fywyd cyhoeddus. Yn gyson â'r amcan hwn, ceir fod nodwedd y llyfrau a gyhoeddodd, o ran maintioli, pris, ac arddull, yn iswasanaethgar i'r un amcan. Trefnai ei oriau pregethu am bump o'r gloch yn y bore, ac am saith yn yr hwyr; ac i'r un perwyl y cynaliai yr holl sefydliadau elusengar a feddai yn Llundain, a manau eraill. Sefydlodd Dispensary a