Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

poorhouse, ysgol ddyddiol, a thrysorfa fenthycol; a chynaliai apothecari a llawfeddyg yn Llundain at wasanaeth y tylodion.

Ond dylid cofio mai sylfaen ei holl allu a'i lwyddiant fel trefnydd a diwygiwr ydoedd ei ddoniau pregethwrol. Nid oedd mor enwog a'i gyfaill Whitfield; a pha ryfedd, oblegyd yr oedd hwnw yn un o bregethwyr goreu Cred. Mewn cymhariaeth iddo collai Wesley mewn llais, dull, a nwyd; ond tybiai llawer y rhagorai arno o ran defnyddiau, trefnusrwydd, dillynder, a chyfeiriad ei bregethau. Mynych y byddai Wesley yn cyfarch miloedd, gan siarad mewn llais cryf, treiddgar, yn hyglyw iddynt oll. Os byddai amser yn caniatâu, pregethai yn faith a llafurus, fel dyn yn methu gollwng y dyrfa ymaith; ac ni byddai neb yn blino arno. Agor yr Ysgrythyrau trwy eu hesbonio, a delio gyda deall ei wrandawyr trwy ymresymu, gan gymhwyso y cyfan at y gydwybod mewn apeliadau cyfeiriadol a grymus, y byddai efe wrth bregethu; a mynych ddylynid ei weinidogaeth â difrifwch ofnadwy a derfyhai mewn argyhoeddiadau dwysion a dychweliadau lawer. Cerddai ei eiriau miniog fel saethau trwy y tyrfaoedd aruthrol a ymgasglent i wrandaw arno; ac er na chodai efe ei lais, ac nad oedd ei ddull yn ddrychebel (dramatic) i'r mesur lleiaf, cwympai dynion cryfion megys meirwon, fel pe wedi eu taraw âg ergyd magnel; a theimlid oddiwrth yr oedfaon a gynaliai am flynyddoedd, gan mor ddwfn oedd yr argraffiadau a wneid.. Y mae yn anhawdd barnu oddiwrth ei bregethau argraffedig beth oedd min, grym, ac awdurdod ei weinidogaeth gyhoeddus, os na cheir awgrymiad yn niweddglo ei bregeth ar "Rad Ras." Prin y credwn fod rhai o'i fyfyrwyr wedi cyfleu syniad cywir am dano fel pregethwr. Hwyrach mai y brenin-fardd Southey a wnaeth fwyaf o degwch ag ef yn hyn. Yr oedd y tyrfaoedd a ymdyrent i'w wrandaw, meithder y pregethau a draddodai heb flino y bobl, yr effeithiau dwysion, ofnadwy ddwysion, a ddylynent ei weinidogaeth yn yr awyr agored, a'r gwaith mawr bendigedig a gwblhawyd trwy ei offerynoliaeth, yn dangos y rhaid ei fod yn bregethwr rhagorol.

Cafodd dreulio blynyddoedd olaf ei oes yn nghanol parch ac edmygedd cyffredinol. Taflwyd drysau eglwysig, a gauwyd unwaith i'w erbyn, yn agored o'i flaen; cyrchai llenorion a seneddwyr i wrando arno yn pregethu, a llenwid drysau y tai âg edrychwyr pan glywid fod "John Wesley yn myned heibio." Estynwyd ei nerth, a gwasanaethodd ei synwyrau a'i gyneddfau meddyliol iddo yn rhyfedd hyd o fewn ychydig ddyddiau i'w farwolaeth. Llywyddodd y gynadledd (un 1790) a gynaliwyd yn Bristol o fewn chwe' mis i'w ymddatodiad. Treuliodd dair wythnos ar ol y gynadledd yn Nghymru, gan bregethu yn fynych. Pregethodd droion ar ei daith i Lundain, a chymerodd rai teithiau byrion allan o'r brifddinas cyn terfyn y flwyddyn, gan drefnu a phregethu yn mhob man yr ymwelai. Erbyn hyn, teimlai fod ei fywyd bron rhedeg i ben, a threfnodd ei dy gogyfer â hyny. Tynodd allan "Deed Poll" i ddyogelu nawdd dros y cyfundeb, a gwnaeth ei "ewyllys olaf" ar ei eiddo personol. Ysgrifenodd amryw lythyrau tra dyddorol yn ystod dau fis olaf ei oes; aï. lythyr diweddaf oll oedd ar "Gaethwasiaeth," yn gyfeiriedig at Wilberforce, i'w gefnogi yn ei ymgais i ddileu y fasnach felldigedig hono. Pregethodd am y waith olaf yn nhŷ anedd heddynâd, o fewn saith niwrnod i'w farwolaeth. Yn mhen deuddydd ar ol hyn, cyflym wanychai. Galwyd am y meddyg, ond yn ofer; canys yr oedd olwynion ei gyfansoddiad bron sefyll, a'i nerth wedi ei dreulio allan. Cyfododd i'w gadair bore Sabbath y 27ain; edrychai yn siriol, ac adroddai un o benillion ei frawd, Charles. Dydd Llun, cynyddai ei wendid, a threuliodd y rhan fwyaf o'r dydd mewn cwsg. Yr ychydig a siaradodd oedd mewn tôn isel, am "waed Iesu Grist, fel yr unig ffordd i'r cysegr sancteiddiolaf." Ar ol noson anesmwyth, pan ofynwyd iddo bore dydd Mawrth, a oedd yn dyoddef poen, torodd allan i ganu. Wedi hyny, gofynodd am bapur ac ysgrif-bin-fod arno eisiau ysgrifenu. Ond wedi eu cael, yr oedd ei olwg yn rhy bŵl, a'i law wedi anghofio ei medr, fel nas gallai efe ysgrifenu. "Gadewch i mi ysgrifenu i chwi," ebai Miss Ritchie; "dywedwch wrthyf pa beth a fynech ei roddi i lawr." "Dim," atebai yntau, "ond hyn, Y GOREU OLL YW, Y MAE DUW GYDA NI." Torodd allan drachefn i ganu, a chododd unwaith eto i'w gadair. Ond buan y pallodd ei nerth, a rhoddwyd ef yn ol ar y gwely—byth i godi drachefn! Ac wedi cynghori, a chanu, a gweddio, a ffarwelio â'i gyfeillion, pan yr oedd un ar ddeg ohonynt ar eu gliniau o gwmpas ei wely, tynodd Wesley ei draed i'r gwely, a bu farw, heb ochenaid, am ddeg o'r gloch bore dydd Mercher, Mawrth yr 2il, 1791, yn 88ain oed! Claddwyd ei weddillion yn mynwent City Road, Llundain, ar y 9fed o'r mis, yn ngwydd torf aruthrol, am bump o'r gloch yn y bore, mewn gwir ddyogel obaith am adgyfodiad i fuchedd dragwyddol.