Tudalen:Bywyd a Llafur John Wesley.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cafodd allan mai y dirgelwch o hyn oll oedd yr adnabyddiaeth brofiadol a feddai y bobl o ffufr Duw. Effeithiodd hyn yn ddwys ar ei feddwl, a chyfranodd ryw gymaint tuag at greu ynddo anesmwythder a arweiniodd i gyfnewidiad mawr yn ei feddwl a'i olygiadau crefyddol. Yn ddioed ar ol glanio yn Georgia, ar y 5ed o Chwefror, 1736, sefydlwyd ein gwrthddrych mewn tref a elwid Savannah, i breswylio yn y persondy coed, ac i fugeilio y trefedigaethwyr. Hon oedd y dref Saesonig fwyaf yn y sefydliad, er nad oedd yn cynwys namyn deugain o dai coed; ac yn mhen oddeutu dwy flynedd ar ol hyn, nid oedd yno ond rhyw haner dwsin o trefydd Saesonig yn Georgia, un o'r rhai mwyaf o ba rai oedd Frederica, yr hon a safai gan' milldir i'r dehau o Savannah. Nid oedd ond ychydig o'r tir wedi ei arloesi: oedd y gweddill o'r sefydliad yn goedwigoedd, corsydd, a phrairie, a feddiennid gan yr Indiaid cochion a bwystfilod gwylltion. Dyma faes llafur John Wesley yn y byd gorllewinol. Dydd Sabbath, Mawrth 7fed, dechreuodd ar ei waith, gan gynal gwasanaeth am naw yn y bore, yna am ddeuddeg, ac un arall yn y prydnawn; ac ar derfyn y dydd, cyhoeddodd ei benderfyniad i fynychu hyny bob Sabbath rhag llaw, ynghyd â gweinyddu y cymun unwaith bob Sabbath, a phob dydd gwyl. Llafuriodd yn ol y drefn uchod fel gweinidog i'r trefedigaethwyr am oddeutu blwyddyn a haner. Fel y nodwyd eisoes, amcan John Wesley yn croesi y môr oedd llafurio fel cenadwr yn mhlith y brodorion; a dylid nodi yn y fan hyn y rhesymau a'i lluddiodd i gario allan yr amcan hwnw. Ar un llaw, yr oedd gweinidog penodedig y Saeson wedi ymadael o'r diriogaeth, a'r plwyfolion fel defaid heb fugail arnynt: ac ar y llaw arall, yr oedd y Ffrangcod a'r Yspaeniaid yn peri cymaint o flinder i'r Indiaid, fel mai hollol ofer oedd i ddyn gwyn geisio cymhell yr efengyl arnynt y pryd hyny. Yn ngwyneb hyn, cydsyniodd Wesley â chais yr awdurdodau i dreulio yr holl amser y bu yn Georgia i fugeilio y trefedigaethwyr, yn hytrach na llafurio fel cenadwr yn mhlith y paganiaid brodorol. Ymroddodd o ddifrif, yn ol y goleuni a feddai, i lafurio yn ei blwyf, er na bu ei lwyddiant ond bychan.

Yr oedd sefyllfa iechyd Charles wedi ei orfodi ef i ddychwelyd rai misoedd cyn hyn. Ymddengys fod meddwl John Wesley y pryd hwn mewn cyflwr o anesmwythder mawr am weled goleuni, a byw. Ysgrifenodd yn ei ddyddlyfr, "Aethum i America i ddychwelyd yr Indiaid—ond Och! pwy am dychwel i? Pwy yw efe a'm gwared i oddiwrth fy nghalon ddrwg o anghrediniaeth?...Y mae hi yn awr yn ddwy flynedd, ac agos i bedwar mis, er pan adewais wlad fy ngenedigaeth i ddysgu Cristionogaeth i Indiaid Georgia—ond pa beth a ddysgais i yn y cyfamser? Hyn (y peth olaf a feddyliaswn o ddim)—sef, fy mod i, yr hwn a aeth i America i ddychwelyd ereill, heb gael fy nychwelyd at Dduw erioed." Dyma ei eiriau a'i gyflwr yn yr argyfwng pwysig yma. Yn ddiatreg ar ol cyrhaedd Lloegr, cyfarfu â Peter Böhler, gweinidog y Morafiaid oedd newydd gyrhaedd Llundain o Germany, yr hwn yn garedig a "agorodd iddo ffordd Duw yn fanylach." Er cael mwynhau cyfeillach a chyfarwyddyd y bobl hyn, a'u gweinidog, efe a ymsefydlodd yn Llundain, a bu yn cyfarfod gyda'r Morafiaid yn Fetter Lane am oddeutu dwy flynedd, yr hyn a brofodd yn fuddiol i'w hyfforddi yn dda yn egwyddorion crefydd fewnol. Buan y daeth yn ymofynydd pryderus amdani, er y bu am lawer o amser heb brofi gollyngdod. Yn yr ystyr yma, yr oedd Charles, ei frawd, yn Nghrist o'i flaen efe. Mai 24ain, 1738, aeth i gyfarfod a gynaliai y Morafiaid yn heol Aldersgate, gyda chalon drom a phryderus; ond pan oedd un or brodyr yn darllen rhagdraeth Luther i'w Esboniad ar y Rhufeiniaid, profodd yntau ddarfod ei symud o farwolaeth i fywyd. "Oddeutu chwarter cyn naw," ebe fe, "teimlais fy nghalon yn gwresogi yn hynod; teimlais fy mod yn ymddiried yn Nghrist yn unig am iachawdwriaeth; a derbyniais sicrwydd ei fod ef wedi cymeryd ymaith fy mhechodau!—Ie, yr eiddof fi!—ac iddo fy 'rhyddhau oddiwrth ddeddf pechod a marwolaeth." Dechreuodd hyn gyfnod newydd yn hanes ei fywyd fel Cristion a phregethwr. Arweiniai fywyd diargyhoedd a phregethai lawer o'r blaen. Ar ei ddychweliad o America, gwahoddid ef i bregethu mewn amryw eglwysydd yn Llundain a'r cyffiniau, ac ymgasglai y bobl i wrandaw arno; ac ar gyfrif y son oedd am dano fel cenadwr a fu yn pregethu i'r Indiaid gwylltion, yn ogystal a'i dalent fel pregethwr. daeth yn boblogaidd ar unwaith. Cynygiwyd bywioliaeth iddo yn swydd Lincoln, yr hon (gyda llaw) a wrthododd, a thelid gradd dda o barch iddo yn y brifddinas. Ond ar ol y cyfnewidiad ysprydol a nodwyd, "wele, gwnaethpwyd pob peth o'r newydd." Gwnaed ef yn ddyn o yspryd arall, a phregethai gyda nerth cwbl ddyeithr a newydd. Yn mhen naw mis ar ol hyn, efe a ymwelodd a'r Morfiaid yn Germany. Byth ar ol eu cyfarfod ar y fordaith yn Georgia, mawr ddymunai gael golwg ar y sefydliad oedd